News Story

Mae National Theatre Wales wedi cael ei ysgwyd ar ôl clywed gan Gyngor Celfyddydau Cymru nad ydyn ni wedi cael cynnig cyllid refeniw parhaus o fis Ebrill 2024.

Rydyn ni’n ymwybodol nad ni’n unig sydd yn y sefyllfa hon; mae nifer o elusennau sy’n cael cyllid cyhoeddus fel ni, a nifer o gyrff yn y sector cyhoeddus, yn wynebu toriadau i’w cyllid, a hynny yng Nghymru a thrwy’r Deyrnas Unedig. Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid a chyllidwyr i ddatblygu darlun o’r hyn sy’n bosibl i’n helusen yn y dyfodol.

Mae’r theatr rydyn ni’n ei greu yn rhoi lle cwbl ganolog i gynulleidfaoedd – pobl Cymru – yn ein gwaith. Wrth greu theatr, mae ein dull unigryw o gydweithio gyda chymunedau, ac o gynnwys cymunedau, wedi ennyn sylw byd-eang, ac mae ein cynyrchiadau theatr wedi cael clod rhyngwladol. Yn ystod ein 12 mlynedd gyntaf, rydyn ni wedi cysylltu â 331,000 o aelodau cynulleidfaoedd byw; y llynedd, fe wnaethon ni gyrraedd 2.5 miliwn o bobl yn ddigidol, ac roedd 54% o’n cynulleidfa o 34,000 yn blant a phobl ifanc.

Rydyn ni’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau’r holl unigolion a chymunedau y byddwn ni’n gweithio gyda nhw. Er enghraifft, rydyn ni’n meithrin hyder pobl i fynegi’u hunain, yn hybu’u hunan-barch, ac yn gwella cydlyniant cymunedol ac iechyd meddwl. Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau iechyd, addysg a chyfiawnder cymdeithasol, ac mae hynny’n elfen hollbwysig yn y modd y byddan nhw’n cyflawni’u gwaith.

Rydyn ni wedi bod yn creu cymuned o wneuthurwyr theatr ym mhob cwr o’r wlad. Mae dros 104,000 o bobl drwy Gymru wedi bod yn rhan o greu prosiectau theatr gyda ni drwy ein cynllun cymunedol, TEAM, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith. Rydyn ni wedi creu swyddi a chyfleoedd gwaith i dros 645 o wneuthurwyr theatr yn y flwyddyn ddiwethaf. Rydyn ni wastad wedi buddsoddi mewn uwchsgilio gwneuthurwyr theatr: yn 2022/23, fe gyrhaeddon ni 6,500 o bobl mewn dros 80 o sesiynau hyfforddiant, gweithdai a digwyddiadau a oedd yn canolbwyntio ar sgiliau a datblygu proffesiynol.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae lles ein staff, gwneuthurwyr theatr, a’r cymunedau rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn hollbwysig. Bydd y penderfyniad hwn yn effeithio ar bob un o’r bobl hyn: bydd yn golygu bod llai o gyfleoedd i bobl ymwneud â’r theatr, i gael gwaith creadigol, ac i adrodd straeon Cymru drwy’r genedl ac i’r byd.

Tra bo’r newyddion hwn yn golygu y bydd yn rhaid i ni ailystyried ein cynlluniau, rydyn ni’n eich gwahodd i ddod i’n cefnogi ac i weld Circle of Fifths wrth i ni fynd ar daith drwy Gymru yr hydref hwn.