News Story

Yr wythnos diwethaf, rhoddwyd gwybod i ni bod panel annibynnol wedi cadarnhau ein hapêl yn erbyn penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru i gwtogi ein cyllid 100% o fis Ebrill 2024.

Canfu’r panel annibynnol nad oedd Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) wedi dilyn ei weithdrefnau ei hun wrth asesu ein cais yn deg ac yn dryloyw. Dywedodd y panel fod “prinder sylwedd i wrthatebion Cyngor Celfyddydau Cymru i honiadau NTW, ac nad oedd digon o brawf i gyd-fynd â nifer o bwyntiau.” Teimlai’r panel fod yn rhaid cwestiynu “gallu CCC i fod yn ddiduedd ac i osgoi rhagfarn ymwybodol a rhagfarn ddiarwybod.”

Casgliad y panel oedd y “dylid adolygu ac ailasesu ein cais”, a gwnaeth argymhellion ynghylch sut y gellid gwneud proses yr Adolygiad Buddsoddi yn decach ac yn fwy eglur.

Rhoddodd CCC wybod i ni neithiwr ei fod wedi penderfynu diystyru canfyddiadau’r panel a’i fod yn gwrthod adolygu ac ailasesu ein cais. Roedd NTW wedi cymryd rhan yn y broses apelio mewn ewyllys da. Proses oedd hon a ofynnai am lawer o lafur a llawer o fanylion. Roedd hi’n broses hefyd a olygai baratoi cyflwyniad ysgrifenedig sylweddol a chyflwyno ein hachos i’r panel apêl mewn gwrandawiad.

Ar ôl i’r aseswyr annibynnol gadarnhau prif bwyntiau ein hapêl yn y rownd gyntaf a’r ail rownd, mae penderfyniad CCC i fwrw ymlaen yn y fath fodd wedi rhoi ysgytwad i ni ac wedi ein siomi’n ddirfawr, gan amharchu egwyddor adolygiadau annibynnol a dangos diffyg tryloywder ac atebolrwydd sy’n achosi pryder. Dyma osod cynsail i’r holl sector o ran sut y gellir herio penderfyniadau CCC yn y dyfodol, ac mae hynny’n destun gofid.

Mae’r sefyllfa wedi bod yn anodd iawn i’n helusen ac i’r gwneuthurwyr theatr, y sefydliadau diwylliannol a’r cymunedau niferus rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Byddwn bellach yn treulio amser yn trafod gyda’n rhanddeiliaid, ein partneriaid a’n cyllidwyr i ystyried ffyrdd posibl ymlaen, a byddwn yn gwneud datganiad llawnach fis Ionawr.

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i alw am fwy o gefnogaeth a thegwch i’r celfyddydau yng Nghymru, ac rydyn ni’n eich gwahodd i ddod i weld y theatr rydyn ni’n ei greu gyda phobl greadigol anhygoel: Circle of Fifths a Feral Monster.