News Story

Mae siarad am farwolaeth, colled a galar yn anodd. Mor galed, mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei osgoi. Ond trwy rannu profiadau, gwneud cysylltiadau a dechrau sgyrsiau, mae yna bobl sy’n ceisio newid pethau.

Mae’r symudiad marwolaeth bositif yn ymwneud â siarad yn agored am farwolaeth, gan gredu na ddylai fod yn rhaid iddo fod yn drist neu’n dabŵ. Os gallwn ddod yn fwy cyfforddus yn siarad am y pethau hyn, bydd ein cymdeithas yn iachach o’i herwydd.

Rydyn ni wedi plymio’n ddwfn ac wedi dod o hyd i rai sefydliadau, gwefannau, podlediadau ac erthyglau gwych sydd hefyd yn archwilio marwolaeth mewn ffyrdd cadarnhaol. Efallai y byddan nhw o ddiddordeb i chi hefyd…

Good Grief Festival

Y crème de la crème o fynd i’r afael â’r tabŵ, mae’r Good Grief Festival yn ŵyl rithwir yn ymwneud â chariad a cholled. Gallwch ddal i fyny ar eu digwyddiadau, erthyglau a sgyrsiau blaenorol trwy danysgrifio i’w Grief Channel.

Compassionate Cymru

Gan weithio gydag unigolion, cymunedau a sefydliadau, mae Compassionate Cymru ar genhadaeth i wella sut mae pobl yn gofalu, yn marw ac yn galaru yng Nghymru.

Griefcast

Os ydych chi’n chwilio am bodlediad i ymchwilio iddo, mae Griefcast gan Cariad Lloyd yn archwilio’r profiad dynol o alar a marwolaeth gyda gwesteion arbennig.

Empathy Museum

Mae From Where I’m Standing gan The Empathy Museum yn gyfres o straeon sain wedi’u hysbrydoli gan wrthrychau sentimental. Mae un o’r nifer o sgyrsiau gwych gan Claire, sy’n siarad yn onest am golli ei mam.

The Griefcase

Rydyn ni’n caru’r Cyfrif Insta hwn, ‘y sianel lle mae unrhyw beth a phopeth ar y bwrdd pan ddaw’n fater o alar.’ Mae ganddyn nhw gyflwyniadau agored a chyfarfodydd i bobl rannu eu straeon a pharhau â’r sgwrs am farwolaeth a cholled.

The Loss Project

Gan anelu at greu ‘diwylliant colled cadarnhaol’, mae The Loss Project yn cysylltu pobl sy’n profi galar a cholled mewn cymunedau lleol, i drawsnewid a hyd yn oed i ddathlu ein profiadau fel ein bod yn teimlo’n llai unig.

Endwell Project

Mae’r Endwell Project yn dod â phobl â chefndir mewn iechyd, technoleg, dylunio, polisi ac actifiaeth ynghyd i drawsnewid ein ffordd o feddwl am salwch difrifol, gofalu, galar a diwedd oes.

Death Over Dinner

Mae’r sefydliad Americanaidd Marwolaeth Dros Ginio yn eich gwahodd i gynnal swper i drafod ‘y sgwrs bwysicaf a chostus nad yw America’n ei chael’. Gan roi syniadau ac awgrymiadau gwesteio i chi, byddant yn eich tywys trwy sut i ddod â ffrindiau, cydweithwyr neu ddieithriaid ynghyd i ddechrau eich sgwrs eich hun.

Byddwn yn parhau â’r sgwrs hon dros yr ychydig wythnosau nesaf, naill ai yma neu ar ein sianeli cymdeithasol. Rydym wedi cael ein hysbrydoli i wneud hyn gan ein cynhyrchiad newydd Circle of Fifths.

Fel cwmni theatr cenedlaethol, rydym yn trafod sut y gallwn weithredu fel drych a microsgop ar gyfer ein cyd-ddealltwriaeth. Er mwyn tanio trafodaethau neu esgor ar newid mewn rhyw ffordd. Mae treiddio i’r themâu a’r syniadau sydd wrth galon a chraidd Circle of Fifths wedi agor byd hollol newydd lle gwneir gwaith anhygoel, blaengar a thrawsnewidiol, ac rydym wedi cael ein cymell i archwilio mwy arno.

Mae yna fudiad pwerus, tosturiol ond tawel sy’n anelu at gael gwared â’r stigma sydd ynghlwm wrth alar a marwolaeth. Mae hyn yn sylfaenol i bob un ohonom. A ninnau wedi cael ein cymell gan yr agwedd hon ar newid cymdeithasol, aethom ati i estyn llaw i’r bobl sy’n mynd i’r afael â’r gwaith ymarferol hwn.