News Story

Mae meddwl yn 'wyrdd' wedi chwarae rhan enfawr yn hunaniaeth Treantur ers ei sefydlu. Rydyn ni wedi treulio misoedd yn chwilio am ddeunyddiau o arwerthiannau cist car, siopau elusen a'n storfa.

Clywch fwy gan yr artistiaid Nigel & Louise a'r dylunydd Amy ar sut mae dilyn Theatre Green Book wedi siapio eu penderfyniadau dylunio...

Ochr yn ochr â llawer o gwmnïau theatr eraill ledled Cymru a'r DU, mae NTW yn defnyddio Theatre Green Book fel canllaw i wneud ein cynyrchiadau yn fwy cynaliadwy.

Ar gyfer y cynhyrchiad hwn, er enghraifft, rydym yn defnyddio hen lawr set pren o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i adeiladu seddi ac rydym yn cyrchu deunyddiau wedi’u hailgylchu o sefydliadau eraill sydd â gwisgoedd, wigiau, setiau a phropiau nad oes eu hangen arnynt mwyach.