News Story

Mae Feral Monster yn archwilio iechyd meddwl, hunaniaeth a rhywioldeb. Gall y pynciau hyn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd, felly, rydyn ni'n cynnal Ystafelloedd Byw Cyhoeddus Camerados ar hyd y daith i gynnig lle croesawgar i sgwrsio, naill ai am y sioe neu dim ond yn gyffredinol.

Mae Camerados yn fudiad cymdeithasol sy'n cynnwys pobl sy'n meddwl ei fod yn syniad da i fod yn ychydig yn fwy dynol. Mae eu Hystafelloedd Byw Cyhoeddus yn lleoedd croesawgar heb agenda i bobl eistedd i lawr gyda phaned, cael sgwrs a theimlo'n fwy dynol.

Mae'r mannau hyn wedi'u dylunio ar y cyd â Cara Evans, Dylunydd Set a Gwisgoedd Feral Monster fel mannau croesawgar wedi’u dylunio ar gyfer cysylltiad dynol – neu o leiaf paned a phice ar y maen!

Ar hyd y daith, fe wnaethom ymuno â grwpiau lleol y gwnaethom eu herio i greu eu hystafell fyw gyhoeddus eu hunain ym mhob lleoliad. Cafodd pob grŵp focs Camerados, cyllideb fach i brynu addurniadau ychwanegol (rhai ail-law yn ddelfrydol, yn unol â'n dull o ran cynaliadwyedd), lluniaeth, a phrynhawn i greu gofod cysurus a chlyd gyda llond trol o ddawn greadigol i adlewyrchu personoliaeth ac unigoliaeth yr ardal.

Yng Nghaerdydd, buom yn gweithio gyda myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yr oedd eu dyluniad yn adlewyrchu natur fywiog a lliwgar y brifddinas.

Yn Aberystwyth, buom yn gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth. Fe wnaethon nhw addurno'r ystafell fyw gyda chlustogau patrymog tew, blancedi meddal sidanaidd a baneri Cymru o siopau elusen lleol.

Yn Llanelli, gweithion ni gyda Kim, myfyrwraig drama o Goleg Sir Gâr. Ysgrifennodd ganllaw cam wrth gam i wneud calonnau origami tra’n ymlacion yn y gofod.

Yn Aberhonddu, gweithion ni gyda Charleston a glywodd am Feral Monster drwy Gay on Wye, siop lyfrau LHDTQ+ annibynnol yn y Gelli Gandryll. Gwnaethon nhw’n siŵr bod y gofod yn arbennig o glyd gyda bagiau ffa a blancedi.