News Story

Mae Newid Diwylliant / Culture Change wedi'i gynllunio i greu ac atgynhyrchu tegwch yn barhaol yn sector y celfyddydau yng Nghymru. Gan ddechrau gyda'i arweinyddiaeth.

Rydym wedi ymuno ag wyth cwmni celfyddydol cenedlaethol Cymru ar fenter fawr. Diolch i nawdd o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Gwrth-hiliol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, mae Theatr Genedlaethol Cymru a'r cwmnïau cenedlaethol celfyddydol eraill yn lansio Newid Diwylliant | Culture Change – sef rhaglen gynhwysfawr sydd â’r nod o drawsnewid y sector gelfyddydol Cymraeg i’w wneud yn wirioneddol gynrychioliadol o'r Gymru gyfoes.

Er mwyn adrodd straeon Cymru a’i hunaniaethau niferus, mae angen inni wneud yn siŵr bod y penderfyniadau a wneir yn cael eu dosbarthu’n gynrychioliadol ar draws ei phobl. Trwy hyfforddiant a datblygiad sefydliadol, bydd Newid Diwylliant / Culture Change yn herio ac yn dileu'n barhaol y rhwystrau niferus i gyfranogiad a gweithio yn y sector, gan greu llwybrau gyrfa gwerth chweil a chyfleoedd arweinyddiaeth y mae unigolion o'r dreftadaeth fwyafrifol fyd-eang yn teimlo'n ddiogel ac yn groesawgar i'w dilyn.

Mae dau gyfle mawr i arwain a chyflawni’r cam hwn:

Cyfeillion Beirniadol

Er mwyn sicrhau perthnasedd ac adlewyrchu profiad bywyd y cymunedau yr ydym am eu denu a'u cynnwys yn ein gweithluoedd a'n cynulleidfaoedd, bydd y rhaglen waith yn cael ei gyd-ddylunio gyda’r Gweithgor Cyfeillion Beirniadol – grŵp o bobl o’r mwyafrif byd-eang sy’n derbyn tâl am eu hamser a’u harbenigedd.

Ymgeisio yma

Dyddiad cau: 2pm ar 22 Mehefin

Gwasanaeth Rheoli Prosiect

Dyma gyfle i berson, partneriaeth neu sefydliad i siapio, rheoli a chyflwyno Newid Diwylliant | Culture Change.

Ymgeisio yma

Dyddiad cau: 2pm ar 29 Mehefin

Bydd modd i hyd at 18 sefydliad gymryd rhan yn Newid Diwylliant | Culture Change, a bydd y meysydd gwaith yn cynnwys hyfforddiant i staff a gweithwyr llawrydd (yn cynnwys hyfforddiant gwrth-hiliaeth); adolygiad o arferion gwaith y cwmnïau yn arbennig mewn perthynas ag Adnoddau Dynol a recriwtio; a chyfleoedd i ddatblygu arweinwyr o’r mwyafrif byd-eang.

Gadewch i ni ddechrau.