News Story

“You’re going to get brilliant music, brilliant movement, a set that is so imaginative and dynamic, and a really cracking cast.”

Cyfarwyddwr ffilm/theatr, hwylusydd a cherddor Cwiar o’r canolbarth yw Izzy Rabey (hi/nhw), a hi yw cyfarwyddwr Feral Monster. Fan hyn, mae hi’n rhannu pam ddylai pawb ddod i weld y sioe:

Izzy oedd y Cyfarwyddwr dan Hyfforddiant cyntaf o Gymru yn The Royal Court Theatre (2020-2021) a bu’n Artist Cyswllt yn y Pentabus Theatre (2021-2022). Blwyddyn diwethaf, fe wnaethon nhw ennill Gwobr Y Selar 2023 am gyfraniad at gelfyddydau Cymru ac ymgyrchu diwylliannol. Mae Izzy wedi cyfarwyddo gwaith i The Royal Court, English Touring Theatre Company, Paines Plough, Theatr Clwyd, Pleasance Theatre, Theatr Genedlaethol Cymru, Underbelly Edinburgh a Sherman Theatre. Mae hi’n rapio yn Gymraeg, yn canu ac yn ysgrifennu geiriau caneuon. Mae Izzy hefyd yn golofnydd i Cylchgrawn Golwg, y cylchgrawn wythnosol Cymraeg, ac mae hi’n parhau i hwyluso prosiectau ym maes croestoriadedd a hunaniaeth Gymreig yng Nghymru ac yn Llundain.