About Petula

4 Stars

A story-world in which nothing is remotely conventional

The Stage

Sut yn y byd wyt ti fod i dyfu fyny a phopeth o dy gwmpas di’n cwympo’n ddarnau?

Dyna’r cwestiwn mawr i Pwdin Evans, sydd wedi cael llond bol o’i rieni a’i lys rhieni gwallgo a phopeth arall sydd gan berson ifanc i boeni amdano yn y byd. Mae’n heglu hi ar antur epig i’r gofod i chwilio am atebion a’i gyfnither coll Petula.

Ym mis Mawrth 2022, daethon ni a Theatr Genedlaethol Cymru ac August012 at ein gilydd i gyflwyno Petula, cynhyrchiad newydd sbon o ddrama anhygoel Fabrice Melquiot. Cafodd ei chyfarwyddo gan Mathilde Lopez gyda sgript gan Daf James a oedd yn cyfuno’r Gymraeg, Saesneg a rhywfaint o Ffrangeg.

Cyfuniad cofiadwy a swreal o gomedi tywyll ac antur. Gwledd weledol am berthynas, iaith a chariad.

Enwebwyd ar gyfer gwobr Y Sioe Orau i Blant a Phobl Ifanc yng Ngwobrau Theatr y DU 2022.

A story that could be Roald Dahl or early Spielberg…this production is nothing if not unique

The Stage

Filled with stage with images that expand the edges of the universe

The Guardian

This tender, affecting and utterly bonkers play is perhaps the ideal antidote to these challenging times

Nation.cymru

A dizzying mix of English, Welsh and French, which the cast negotiates with endless grace to great comical effect

IWA

The action may be absurd but the trauma and confusion of growing up are totally realistic

The Observer

Mathilde a Daf yn yr ystafell ymarfer

Gwybodaeth ddefnyddiol

Taith

Theatr y Sherman, Caerdydd
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Pontio, Bangor
Ffwrnes, Llanelli
Torch Theatre, Aberdaugleddau
Glan yr Afon, Casnewydd
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

Hygyrchedd

Sain ddisgrifiad

Gwrandewch ar y cyflwyniad wedi’i sain ddisgrifio

Gwrandewch ar y nodyn cyflwyno wedi’i sain ddisgrifio

Cafodd y perfformiadau gyda sain ddisgrifiad yn Theatr Sherman eu sain ddisgrifio yn Gymraeg a Saesneg (ar nosweithiau gwahanol) gan Ioan Gwyn. Cafwyd cyfieithiad sain byw o’r sgript o’r Gymraeg i’r Saesneg hefyd gan Carys Eleri.

Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Cyflwyniad BSL

Cafodd perfformiadau BSL eu dehongli gan Catheryn McShane yn Theatr Sherman a Pontio, Bangor

Capsiynau

Cafodd pob perfformiad o Petula eu capsiynu’n llawn gyda dwy sgrîn capsiynau yn yr awditoriwm:

  • Un ar y dde yn Saesneg gyda’r ddeialog Gymraeg wedi’i chyfieithu
  • Un ar y chwith yn Saesneg a Chymraeg heb ei gyfieithu
  • Roedd ychydig o’r ddeialog yn Ffrangeg. Roedd capsiynau ar gyfer hynny ar y ddwy sgrin heb gyfieithiad.

Cast

Petula
Kizzy Crawford
Joe Potatoslouch
Tom Mumford
Dadi
Sion Pritchard
Mami
Clêr Stephens
Amethyst Crappp
Rachel Summers
Pwdin Evans
Dewi Wykes

Y tîm creadigol

Awdur
Fabrice Melquiot
Cysyniad a cyfarwyddo
Mathilde López
Cyfieithiad a addasiad
Daf James
Cyfarwyddwr cynorthwyol
Siobhan Brennan
Dylunydd
Jean Chan
Cyfansoddwr
Branwen Munn
Coreograffydd
Leighton Wall
Dylunydd Golau
Joe Price
Dylunydd Fideo
Will Monks
Ymgynghorydd Sgript
Arwel Gruffydd