About Creu Theatr Mewn Cyfnod o Argyfwng Hinsawdd

Dyma eich cyfle i fynychu sgwrs sector gyfan y DU am greu theatr yng nghyd-destun argyfwng hinsawdd, gan gynnwys egwyddorion y Theatre Green Book. Cynhelir gan y National Theatre, National Theatre of Scotland a National Theatre Wales.

Gan ddod â Chyfarwyddwyr a Chyfarwyddwyr Artistig o bob rhan o’r DU ynghyd, bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar yr her a'r cyfrifoldeb cyfunol a wynebir wrth gynllunio cynyrchiadau gyda’r agenda werdd yn ganolog iddynt. Y nod yw mai hwn fydd y cyfarfod mwyaf erioed o Gyfarwyddwyr, Cyfarwyddwyr Artistig a chyfarwyddwyr llawrydd o bob rhan o Ynysoedd Prydain.

Mae llawer o theatrau eisoes yn ymrwymo i Theatre Green Book, gydag addewidion yn cael eu gwneud i bob cynhyrchiad fodloni safonau Green Book yn y blynyddoedd i ddod. Mae nifer cynyddol o leoliadau a sefydliadau yn mabwysiadu’r safonau fel mater o bolisi, a chyn bo hir ni fydd yn bosibl optio allan o'r safonau wrth greu gwaith.

Yn y cyfarfod hwn bydd cynrychiolwyr yn holi sut allant hwy, fel arweinwyr cynyrchiadau a wneir ar draws y gwledydd, arwain y timau i wneud i’r safonau hyn weithio; ysgogi a datblygu eu harferion artistig a moesegol.

Pwrpas y dydd yw cael effaith ar y sector: i fyfyrio ar y materion sy’n ein hwynebu ac i ymateb drwy greu nodau i’w gweithredu.


I’r rhai na allant fynychu wyneb yn wyneb, mae'r opsiwn i fynychu trwy ffrwd fyw ar gael hefyd. Mae NTW yn agor eu swyddfa i wahodd unrhyw gyfarwyddwyr na all fynychu yn Llundain, ond a hoffai ymgynnull gyda chydweithwyr yng Nghymru i brofi'r digwyddiad ar-lein gyda nhw.