Sharon Gilburd
Strategydd digidol ydy Sharon, ac mae hi wedi gweithio gyda busnesau sefydlog a rhai newydd i drawsnewid eu ffyrdd o weithio, drwy roi dylunio a thechnoleg digidol ar waith.
Wedi iddi dreulio bron i ddau ddegawd yn gweithio ym myd marchnata, newid ac arloesi i frandiau sy’n werth miliynau o bunnau ac i fusnesau newydd, mae hi’n dal i deimlo cyffro wrth roi’r cyfuniad iawn o dechnoleg a chreadigrwydd ar waith i ddatrys heriau busnes. Wrth weithio gyda chwmnïau fel Visa, Orange a Barclaycard, mae hi bob amser yn cofio mai’r cwsmer ydy gwir seren y sioe, gyda dylunio a thechnoleg yn chwarae rôl gefnogol gref.
Wedi iddi astudio i gael BA mewn masnach ym Mhrifysgol Napier yng Nghaeredin, cafodd ei recriwtio i weithio i Sefydliad Masnach y Byd yng Ngenefa, ble datblygodd ei chariad tuag at ystadegau ac ieithoedd. Mae hi’n byw yn Llandwrog yng ngogledd Cymru nawr, a’i phrosiect iaith diweddaraf yno ydy’r Gymraeg. Ac yn ddiweddar, cyflawnodd rywbeth fu’n uchelgais iddi ers iddi ei weld ar y teledu pan roedd hi yn yr ysgol yn Shetland, sef mynychu Central St Martins yn Llundain.
“I did a Masters in Applied Imagination because although I’d achieved a lot in my career, I felt the bigger the jobs I took on, the further away I got from creativity. I wanted to re-ignite something I had earlier in my marketing career, where my job was to use creativity to solve problems."
Mae hi’n gweithio nawr ar brosiectau ble mae cyfleoedd i weithio mewn gweithleoedd amlddiwylliannol ac amlieithog, gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg i gynllunio profiadau, cynnyrch neu wasanaethau sy’n rhoi’r defnyddiwr yn y canol.
“Mae Rôl Ymddiriedolwr yn National Theatre Wales yn gyfle anhygoel i mi gael dod â rhywfaint o fy mhrofiad proffesiynol i NTW a bydd hefyd yn wir fraint i mi gael gweithio gyda chriw mor dalentog o bobl ac i’w helpu i gyflawni eu nodau ar gyfer Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.”