News Story

Mae Bethan (hi/nhw) yn awdur arobryn o Ogledd Cymru. Hi ysgrifennodd Feral Monster, y sioe gerdd newydd syfrdanol rydym yn teithio ar draws Cymru rhwng Chwefror a Mawrth 2024.

“Be’ dwi’n caru amdano fo ydi just pa mor authentic dio, pa mor unigryw ydi o, a mae o’n teimlo’n wledig ac yn Gymreig”.

Mae cyd-greu â chymunedau yn rhan hollbwysig o ddull Bethan ac NTW o weithio. Mae Bethan wedi datblygu Feral Monster drwy gydweithio’n agos â phobl yn eu harddegau o sawl rhan o Gymru – o fyfyrwyr mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion yn Sir Benfro i glwb ieuenctid LHDTCRhA+ GISDA, elusen yng Ngwynedd sy’n cynorthwyo pobl ifanc. Mae hi hefyd wedi cydweithio â pherfformwyr yn ystod y broses ymchwil a datblygu.

Bethan Marlow gwaith theatr sydd wedi cael cryn glod yn cynnwys PIGEON (Theatr Iolo/Theatr Genedlaethol Cymru), MOLD RIOTS (Theatr Clwyd) a NYRSYS (Theatr Genedlaethol Cymru). Mae gan Bethan waith comisiwn ar y gweill gyda Theatr Genedlaethol Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru.