Polisi Cwcis

Mae cwcis yn ddarnau bach o wybodaeth sy’n cael eu storio gan eich porwr ar ddisg galed eich cyfrifiadur. Maen nhw’n ei gwneud hi’n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaeth tocynnau ar-lein ac olrhain ystadegau ymwelwyr, megis ymwelwyr sy’n dychwelyd.

Rydym yn defnyddio cwcis i reoli’r basgedi siopa ar ein tudalennau tocynnau yn ogystal â mewngofnodi a defnyddio’ch tudalennau cyfrif NTW. Mae’r cwcis a ddefnyddir ar gyfer y swyddogaethau hyn yn gwcis dros dro sy’n cael eu tynnu ar ôl i’r trafodiad gael ei gwblhau neu os byddwch chi’n allgofnodi. Nid yw’n bosibl prynu unrhyw beth ar ein gwefan heb dderbyn y cwcis hyn.

Mae’r wefan hon yn defnyddio’r cwcis canlynol nad ydynt yn hanfodol:

Cwcis Google Analytics

Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, felly nid ydym yn gwybod pwy sy’n defnyddio ein gwefan. Defnyddiwn y wybodaeth ar sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan i lunio adroddiadau ac i’n helpu i wella’r wefan. Gallwch fynd i Google i ddarganfod mwy am gwcis Google Analytics a sut i optio allan ohonynt.

Cwcis e-bost a thracio ar y we a ddefnyddir gan National Theatre Wales

Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr sydd wedi tanysgrifio i’n rhestrau e-bost yn defnyddio’r wefan. Nid yw’r data hyn yn ddienw ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth i helpu i wella ein gohebiaeth e-bost a thargedu negeseuon wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer ein tanysgrifwyr e-bost. Gallwch adolygu a newid eich gosodiadau gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Cwcis a ddefnyddir gan Twitter a Facebook

Mae’r cwcis hyn yn darparu gwybodaeth ar ymwelwyr â Twitter a Facebook, yn gwirio a yw defnyddwyr wedi mewngofnodi i naill lwyfan neu’r llall ac yn gosod cwcis cymwysiadau ar gyfer Twitter a Facebook.

Gallwch adolygu a newid eich gosodiadau yma.

Am ragor o wybodaeth am gwcis, ewch i:

Sylwch nad ydym yn gyfrifol am yr wybodaeth sydd ar gael ar y gwefannau hyn.