Hygyrchedd

Rydyn ni eisiau i’n gwaith fod yn hygyrch i’r cynulleidfaoedd ehangaf posibl.

Rydyn ni’n gweithio’n galed i gael gwared ar rwystrau lle gallwn ni. Rydyn ni’n gwybod bod llawer mwy o waith i’w wneud, felly rho wybod i ni sut arall y gallwn ni fod yn fwy hygyrch, drwy ffonio +44 (0)29 2252 8171 neu drwy anfon e-bost i admin@nationaltheatrewales.org.

Ein cynyrchiadau
  • Dewis safleoedd a lleoliadau sy'n hygyrch yn gorfforol
  • Cynnig dehongliad BSL a sain ddisgrifiad ar gyfer ein holl sioeau
  • Datblygu ein system ein hunain ar gyfer capsiynau ar iPads (fel y gallwn barhau i gynnig capsiynau pan fyddwn hanner ffordd i fyny mynydd)
  • Creu cynnwys hygyrch gan gynnwys cyflwyniadau sain, taflenni a rhaghysbysebion yn ogystal â thaflenni BSL a rhaghysbysebion â chapsiynau
  • Mae gwybodaeth benodol am hygyrchedd pob sioe ar ein tudalennau digwyddiadau
Rydyn ni’n gwneud cynnydd mewn meysydd eraill hefyd:
  • Rhestrau o Ofynion Hygyrchedd sy’n gwahodd pawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw i roi gwybod i ni beth maen nhw’i angen i wneud eu gwaith gorau, ac fe wnawn ni addasiadau rhesymol yn unol â hynny
  • Gwella hygyrchedd ein gwefan
  • Gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Celfyddydau Anabledd Cymru ac Unlimited a dysgu ganddyn nhw
  • Adolygu ein prosesau recriwtio a'n hathroniaeth
  • Rhoi hyfforddiant ym maes anabledd a chynhwysiant i'n holl staff.