News Story

Rydym yn partneru â Parthian Books a Chymdeithas Adeiladu’r Principality i gyhoeddi sgript Feral Monster gan Bethan Marlow.

Gallwch chi archebu'r sgript nawr am £9 ynghyd â thâl postio. Bydd hefyd ar gael i'w phrynu yn y lleoliadau ar hyd y daith.

“Rydym yn falch iawn o weithio gyda NTW a Bethan Marlow i gyhoeddi drama newydd mor gyffrous a pherthnasol.” - Richard Davies, Parthian

“Wrth dyfu i fyny fel merch heb dop, yn dringo coed, yn reidio BMX gyda sbeiciau, roedd yna lawer am y byd nad oedd yn gwneud synnwyr i mi, gan gynnwys fy lle ynddo. Feral Monster yw fy ymgais i ddod o hyd i'r geiriau cywir i egluro sut beth yw bod yn berson cwiar yn eich arddegau yng nghefn gwlad Cymru ac i ddefnyddio'r stori hon fel cyfle i ddathlu pawb yn eu harddegau.

Hoffwn ddychmygu fy hun yn fy arddegau yn diolch i chi am gymryd yr amser i ddarllen y ddrama hon a gobeithio y byddwch yn ei mwynhau. Er.....mae'n debyg y byddai hi wedi siarad pwll y môr yn dweud popeth ond "diolch" ac yna tynnu'r piss allan ohonoch chi a gorffen gyda jôc anweddus cyn rhedeg i ymuno â'r bechgyn a dringo i do'r ysgol. Ond oddi wrthyf, nawr – diolch o galon.” - Bethan Marlow

“Bydd cyhoeddi sgript wych Bethan Marlow yn golygu y bydd modd ei rhannu a’i dathlu am flynyddoedd i ddod. Ochr yn ochr â Feral Monster, rydym wedi creu cyfres o adnoddau addysgol digidol gyda rhai o’r tîm creadigol, gan gynnwys Bethan, gan ein bod yn teimlo bod hwn yn destun gwych i’w astudio ar gyfer TGAU a Safon Uwch.” - Naomi Chiffi, Cyfarwyddwr Cydweithio, National Theatre Wales

Mae cyhoeddi sgript Feral Monsterwedi'i noddi gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality.