About Cardiff 1919: Riots Redrawn

Ar 11 Mehefin 1919, cafodd Caerdydd ei thaflu i bedwar diwrnod a nos o drais a adawodd dri o bobl yn farw ac adeiladau wedi’u dryllio a’u llosgi. Ar y pryd cyfeiriodd y Western Mail ato fel ‘An amazing orgy of pistol firing, window smashing, and skirmishes between white men and coloured men’.

Ond rydyn ni i gyd yn gwybod bod cymaint o wahanol straeon y tu ôl i’r hyn sy’n cael ei adrodd yn y newyddion.

Mae Cardiff 1919: Riots Redrawn yn nofel graffig ddigidol gan yr artist o Butetown, Kyle Legall. Mae’n brofiad digidol atgofus sy’n cyfuno testun llafar a darlunio i greu’r awyrgylch, y bobl a’r lleoedd oedd yn rhan o foment ddychrynllyd o wrthdaro hiliol a thrais ar strydoedd Caerdydd. Wedi’i lunio o adroddiadau mewn papurau newydd lleol, mae darluniau Kyle hefyd yn tynnu ar hanesion a straeon a basiwyd i lawr drwy’r cenedlaethau o foment o drawma a adawodd farc annileadwy ar gymuned Butetown. Ynghyd â seinlun gan Chris Jenkins a throslais gan Ali Goolyad a Mike Pearson, mae’r cyfrif clir, gweledol dydd wrth ddydd, awr wrth awr hwn yn dilyn llanw a thrai y terfysgoedd, gan eich trochi yn y gwallgofrwydd dwys a ddigwyddodd ar strydoedd ein prifddinas 101 o flynyddoedd yn ôl.

Dyma brofiad digidol y gallwch ei archwilio o’ch cartref, ond y gellir ei brofi hefyd fel taith gerdded ffisegol (wedi’i hymbellhau’n gymdeithasol) drwy’r mannau lle y digwyddodd bethau. Drwy gerdded ar y strydoedd lle mae digwyddiadau’r gorffennol wedi ymwreiddio yn adeiladwaith y palmant, bydd olrhain cam wrth gam mewn profiad ymdrochol, atgofus yn dod â ni’n agosach o lawer at y digwyddiadau na thrwy ddarllen hanesion mewn archifau hanesyddol neu wylio’r hyn sy’n digwydd mewn adroddiadau newyddion ar y teledu.

Cardiff 1919: Riots Redrawn was selected for the inaugural Windrush Caribbean Film Festival

Beth i’w ddisgwyl

Ar-lein

Dyma brofiad digidol y gallwch ei archwilio o’ch cartref, ond y gellir ei brofi hefyd fel taith gerdded ffisegol drwy’r mannau lle y digwyddodd bethau.

Mae ar gael i’w gyrchu a’i brofi yn Cardiff1919.Wales

Ar leoliad

Gellir profi Cardiff 1919: Riots Redrawn fel taith gerdded ffisegol drwy’r mannau lle y digwyddodd bethau. Mae cyflwyniad y nofel ddigidol ar Cardiff1919.Wales yn darlunio’r digwyddiadau mewn trefn gronolegol. Fel y cyfryw, wrth brofi hyn ar leoliad, cynhelir rhai digwyddiadau ar yr un safle, ond ar adegau gwahanol. Os yn dilyn y llwybr mewn trefn, byddwch yn dychwelyd i rai lleoliadau nifer o weithiau.

Fel arall, os byddai’n well gennych lwybr byrrach sy’n ymweld â phob lleoliad unwaith yn unig, byddem yn argymell y canlynol:

  • Gwrandewch ar 1 yn y man wrth gyffordd Stryd y Tolldy/Stryd y Gamlas
  • Gwrandewch ar 2 yn y man y tu allan i’r Llyfrgell Ganolog
  • Gwrandewch ar 3, 4 y 5 yn y man ger Byddin yr Iachawdwriaeth ger Sgwâr Callaghan
  • Gwrandewch ar 6 yn y man ger yr arosfannau bysiau ar gyfer Sgwâr Callaghan
  • Gwrandewch ar 7 y 8 yn y man ger The Golden Cross
  • Gwrandewch ar 9 yn y man ger The Golden Cross / John Lewis
  • Gwrandewch ar 10 yn y man ger yr Arcêd Brenhinol

Y tîm creadigol

Prif Artist
Kyle Legall
Ymchwilydd
Mike Pearson
Dylunydd Sain
Chris Jenkins
Golygydd Fideo
Edie Morris
Crëwr a Dylunydd Gwe
Dom Farelli
Llais
Ali Goolyad
Llais
Mike Pearson
Cerddor
Elliot Bennett
Cerddor
Stefan Dale