Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol a Nodau Byd-eang mewn perthynas â Gweithgarwch TEAM Sir Benfro

Cymru Lewyrchus

Drwy weithgarwch TEAM yn Sir Benfro byddwn yn darparu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer unigolion o fewn y sir, o ystod oedran amrywiol, gan gyfrannu tuag at boblogaeth fedrus sydd wedi'i haddysgu'n dda. Wrth wraidd gweithgarwch Sir Benfro mae'r angen i weithredu ar newid yn yr hinsawdd a chreu sioe carbon isel sydd nid yn unig yn cydnabod terfynau'r amgylchedd byd-eang, ond yn tynnu sylw atynt. Byddwn yn darparu cyfleoedd cyflogaeth sy'n gysylltiedig â'r sioe ac felly'n galluogi poblogaeth Sir Benfro i fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy sicrhau'r gwaith hwn a gwaith yn y dyfodol.

Cymru Gydnerth

Mae cymuned Sir Benfro wedi dewis Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd fel y themâu allweddol ar gyfer y sioe hon. Rydym felly, drwy ein holl waith yn yr ardal, yn cadw'r amgylchedd naturiol bioamrywiol a'r syniad o gydnerthedd ecolegol ar flaen y gad yn ein cynllunio a'n negeseua o amgylch y sioe. Bydd y gallu i addasu i newid ac ymateb iddo (yn enwedig newid hinsawdd) yn un o negeseuon canolog ein gwaith.

Cymru Iachach

Mae cymryd rhan yn y celfyddydau yn arwain at effaith gadarnhaol brofedig ar lesiant corfforol a meddyliol unigolyn. Trwy gymryd rhan yng ngwaith TEAM yn yr ardal rydym yn ceisio gwella llesiant corfforol a meddyliol y rhai sy'n cymryd rhan. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cysylltu'r thema Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd ag iechyd meddwl a llesiant corfforol unigolyn, archwilio syniadau eco-seicoleg a deall y bydd dewisiadau ac ymddygiad cadarnhaol ynghylch diogelu'r amgylchedd yn cael effaith lesol ar iechyd yn y dyfodol.

Cymru Fwy Cyfartal

Un o egwyddorion canolog athroniaeth TEAM erioed fu creu Cymru fwy cyfartal, lle y galluogir nid yn unig gydraddoldeb ond tegwch i dyfu a ffynnu. Rydym wedi ymrwymo, drwy holl waith TEAM, i greu cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a'u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).

Cymru o Gymunedau Cydlynus

Mae TEAM yn canolbwyntio ar greu cymunedau cydlynus. Drwy weithgarwch TEAM Sir Benfro a'i gyrhaeddiad eang, rydym yn ceisio cysylltu'r sir amrywiol hon drwy weithgareddau creadigol a sicrhau gwaddol ymarferol i gymunedau sydd â chysylltiadau da yn y dyfodol.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Drwy weithgarwch TEAM Sir Benfro byddwn yn cyfrannu tuag at gymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant a threftadaeth, ac sy'n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau. Rydym wedi ymrwymo i weithio tuag at iaith Gymraeg ffyniannus drwy ddarparu cyfleoedd drwy ddigwyddiadau dwyieithog.

Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Drwy greu cysylltiadau rhyngwladol drwy sefydliadau fel Maint Cymru, mae gweithgarwch TEAM NTW yn Sir Benfro yn ymrwymo i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, tra'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i lesiant byd-eang.

Drwy'r gweithgarwch TEAM yn Sir Benfro, gallwn ymrwymo'n hyderus i gyfrannu tuag at bron pob un o'r Nodau Byd-eang.