Go Tell the Bees

Wrth wraidd Go Tell the Bees yw’r gobaith y gallwn, trwy weithredu, ddysgu gan ein gilydd, magu hyder a sgiliau a phrofi trwy’r holl synhwyrau.

Rydym am i’r cynhyrchiad hwn gael effaith gadarnhaol ar gymunedau. Mae dysgu mewn ffordd weithgar a llawn dychymyg yn hanfodol i hyn.

Gall disgyblion archwilio ein cysylltiad â’r byd naturiol a gyda’n gilydd trwy adnoddau o wybodaeth a gweithgarwch NTW TEAM ac wedi’i ysbrydoli gan 7 Gweithred Syml.

Mae'r Ystorfa Ddysgu, a welir ar Hwb, wedi’i chreu i ategu’r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd i Gymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a ddatblygwyd gan chwe ymarferydd creadigol gyda thri athro ymgynghorol.

Bori adnoddau yn ôl oed neu’r maes dysgu.

Darlun o berson gyda swigen feddwl uwch ei ben yn cynnwys darluniau o ddeinosor, robot, seren saethu, planed, balŵn a mwy.