About Rhannu Interwoven gan Krystal S. Lowe

Mae Krystal S. Lowe yn datblygu ei sioe ddawns un fenyw: Interwoven gyda ni, fel rhan o gyd-gomisiwn gydag Unlimited. Bydd y darn theatr cyfoes hwn sy’n cynnwys syrcas a dawns yn canolbwyntio ar fynediad a mwynhad cynulleidfa niwroamrywiol.

Yn Interwoven, mae diwylliant gwallt du yn cael ei weu i gyfatebiaeth ar gyfer y profiad dynol tra'n dathlu gofal ac agosatrwydd Du.

Bydd Krystal yn animeiddio cyfres o straeon byrion bywgraffyddol a hunangofiannol a cherddi o bob rhan o Gymru drwy ddawns gyfoes a bale tra’n archwilio’r cyfleoedd adrodd straeon sy’n ymwneud â harddwch Du.

Ymunwch â ni i rannu'r ymchwil a'r datblygiad hwn. Bydd Krystal yn rhannu darnau o Interwoven ochr yn ochr â derbynyddion Bwrsariaeth Ein Llais Naseem Syed a Plamedi Santima-Akiso yn y Digwyddiad Rhannu Ein Llais 2024.