News Story

Yn Interwoven, mae diwylliant gwallt du yn cael ei weu i gyfatebiaeth ar gyfer y profiad dynol tra'n dathlu gofal ac agosatrwydd Du.

Mae Krystal S. Lowe wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â ni, Unlimited a thîm gwych i:

  • Casglu straeon
  • Datblygu'r sgript
  • Edrych ar ddyluniad y set
  • Profi sain a symud
  • Archwilio perfformiadau hamddenol gyda chynulleidfaoedd niwroamrywiol mewn golwg

Fe wnaethom gyfarfod â Krystal a’r tîm i gael gwybod am eu rolau, a’r hyn y maent wedi bod yn ei wneud.

Dewch i gwrdd â'r artist Krystal S. Lowe

Mae'n gyffrous iawn gweld sut mae popeth yr wyf wedi'i ragweld ar gyfer y prosiect hwn yn dod yn fyw. Mae wedi bod yn anhygoel gweithio gyda phobl greadigol nad wyf eto wedi gweithio gyda nhw o'r blaen yn ogystal â meithrin perthnasoedd gwaith dyfnach ag eraill. Ar bob cam, rydw i wedi teimlo bod y tîm creadigol wedi cymryd gofal gyda'u hagwedd nhw o'r archwiliad. Rwy'n llawn cyffro am y camau nesaf ac am y cyfle i rannu hyn gyda mwy o bobl yn fuan iawn.

Mae'r broses wedi teimlo'n dyner iawn. Mae'r ymchwil a datblygu cyfan yn 10 mis o hyd, sydd wedi bod yn anhygoel. Rwy'n teimlo bod cymaint o amser i ystyried pob cam o'r broses yn ofalus wrth fynd ymlaen.

Menyw â chroen brown gyda gwallt brown tywyll hir. Canol y tridegau (34) gydag adeiladwaith athletaidd. 5 troedfedd 4 modfedd o daldra. Llygaid brown tywyll yn edrych i'r chwith o'r camra.

Dewch i gwrdd â'r dramaydd Aisha Josiah

Mae dramayddiaeth yn arfer hynod eang a all fod yn anodd ei ddiffinio, ond rwy’n hoffi ei ddisgrifio’n syml fel “helpu pobl i adrodd straeon”. Rwy’n ceisio deall beth mae artist yn ceisio ei gyfathrebu, yn ei helpu i fynegi ei syniadau, cynnal ymchwil i'r testun, dod o hyd i fodelau a strwythurau presennol i dynnu arnynt, datblygu ymarferion adrodd stori a helpu i gynhyrchu, gosod mewn cyd-destun a mireinio gwaith newydd fel y caiff ei greu.

Hyd yn hyn, rydw i wedi bod yn gwneud llawer o ddarllen ac ysgrifennu! Cafodd Krystal a minnau ddau ddiwrnod cychwynnol o ddatblygiad yng Nghasnewydd, lle buom yn trafod ei syniad, y stori yr oedd am ei hadrodd a sut. Darparodd Krystal rai cerddi roedd hi wedi'u hysgrifennu fel ysbrydoliaeth a gwnaethom ddiagramio'r prif themâu a syniadau. Des i o hyd i ddeunyddiau cyfeirio (dramâu, ffilmiau, cerddoriaeth, ac ati) yn seiliedig ar ein trafodaethau ac rydym wedi defnyddio'r rhain fel sgaffaldiau i helpu i ddatblygu syniadau Krystal yn gymeriadau manylach, llinellau plot ac arcau thematig. Cyn bo hir, byddwn yn cyfarfod yn bersonol eto i archwilio symudiad, dyluniad set a phropiau, a fydd yn ychwanegu dimensiwn newydd cyffrous i'r stori.

Mae'r ddelwedd hon mewn du a gwyn. Mae unigolyn â gwallt du byr a gwisg ddu yn gogwyddo ei ben ychydig i edrych ar y camera.

Dewch i gwrdd â'r dylunydd set TK Hay

Mae Krystal a minnau wedi bod yn brysur yn gwireddu rhan o’r set i’w defnyddio yn yr archwiliad yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, y mae tîm Theatr y Sherman yn ei adeiladu. Mae wedi bod yn hynod ddiddorol dylunio ar gyfer symudiad yn bennaf, oherwydd gellir dringo ar UNRHYW BETH a rhyngweithio ag ef. Mae anthropometreg ac ergonomeg yn bwysicach nag erioed wrth ddylunio ar gyfer y dull hwn o berfformio. Fel rhan o'r broses hon, rwy'n edrych ymlaen at archwilio dylunio ar gyfer ein synhwyrau eraill heblaw golwg.

Erbyn diwedd y broses hon, rydym yn anelu at gael iteriad o sut y gallai cynllun cyflawn ar gyfer y sioe edrych.

Unigolyn â gwallt du byr a sbectol, yn gwisgo cnu gwyrdd tywyll ac yn edrych yn uniongyrchol ar y camera.

Dewch i gwrdd â'r dylunydd gwisgoedd Emma-Jane Weeks

Dechreuon ni gyda llun cyfeirio ar gyfer ysbrydoliaeth ac rydym yn archwilio'r syniad o ddarn o wisg sy'n lapio ac yn plethu o'i chwmpas bron fel gwallt. Mae'r wisg wedi'i gwneud o tulle sydd, o'i phlethu, yn dod yn gadarn ac yn fras iawn mewn cyferbyniad ag elfennau mwy main a bregus. Mae agweddau ohono yn debyg iawn i harnais, tra bod rhannau eraill yn feddalach ac yn llai ffitiedig. Mae bob amser yn bleser gweithio'n arbrofol ar ddarn sy'n datblygu wrth iddo gael ei greu.

Digwyddodd llawer o hyn yn ffitiad cyntaf Krystal lle’r oeddem yn gallu cydweithio a thrafod y wisg, gan dasgu syniadau i greu rhywbeth sy’n gweithio’n dda ac yn cyflawni ei gweledigaeth yn esthetig.

Gobeithio y bydd yn arf defnyddiol i ddatblygu symudiad ag ef ac edrychaf ymlaen at weld sut mae’r wisg yn datblygu ynghyd â chreu’r darn.

Unigolyn â gwallt brown hir, yn gwenu ar y camera.

Cwrdd â Hannah Darby ymgynghorydd symudiad syrcas

Mae fy nghefndir mewn dawns, theatr gorfforol a syrcas, yn bennaf yn yr awyr. Byddaf yn defnyddio fy ngwybodaeth yn y disgyblaethau hyn i helpu gydag archwilio ar y set siglen. Byddaf yn cynnig syniadau am afaeliadau amrywiol gyda gwahanol rannau o'r corff a ffyrdd o symud o gwmpas y cyfarpar.

Unigolyn â gwallt brown hir ac ymyl. Maen nhw'n gwisgo crys-t du ac yn edrych yn uniongyrchol ar y camera.

Cwrdd â James Doyle-Roberts o Citrus Arts

Rwyf wedi bod yn helpu Krystal i gael y gorau o'r set wych a ddyluniwyd gan TK ac a adeiladwyd gan dîm Theatr y Sherman. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o wneud cynyrchiadau syrcas cyfoes, mae gen i reddf dda am yr hyn sy'n digwydd pan fydd coreograffi yn cwrdd â pheirianneg strwythurol.

Unigolyn â gwallt wyneb brown a llwyd byr. Maen nhw'n gwisgo cap brown golau a chôt las. Maen nhw'n sefyll wrth ymyl pabell y tu allan ac yn edrych yn uniongyrchol ar y camera.

Cwrdd â'r cyfieithydd Kizzy Crawford

Fy rôl ar y prosiect hwn yw cyfieithu’r gerdd Not All Good Needs to Last i'r Gymraeg, gan anelu at gyfleu'r un emosiynau a hanfod a bortreadir yn y fersiwn Saesneg.

Unigolyn â gwallt cyrliog hir brown, yn gwisgo sbectol haul a thop tanc. Maen nhw'n edrych i fyny ac i'r dde o'r camera.