Leonora Thomson
Prif Swyddog Gweithredol Dros DroMae Leonora Thomson yn gweithio i gefnogi pobl a sefydliadau yn y sector celfyddydau. Mae ei chleientiaid diweddar yn cynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Headlong Theatre a Creatives Lives. Rhwng 2019 a 2021 roedd yn Gyd-Brif Weithredwr Dros Dro National Theatre Wales ac yn Gyfarwyddwr Artistig Dros Dro yn y Barbican Centre, Llundain. Yn gynnar yn 2020 cwblhaodd aseiniad fel Prif Weithredwr Dros Dro Anthem, y Gronfa Gerddoriaeth newydd i Gymru, sefydliad a sefydlwyd i gynyddu profiadau a chyfleoedd cerddorol i bobl ifanc Cymru.
O 2015 - 2019 Leo oedd Rheolwr Gyfarwyddwr Opera Cenedlaethol Cymru, cwmni celfyddydau perfformio mwyaf blaenllaw Cymru, sy’n teithio ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, lle bu’n arwain ochr fusnes y sefydliad, gan gydbwyso heriau ymarferol ochr yn ochr â’r uchelgais creadigol uchaf. Am saith mlynedd cyn hynny bu'n gweithio yn y Barbican Centre fel Cyfarwyddwr Cynulleidfaoedd a Datblygu.
Ymunodd â’r Barbican o Wasanaeth Heddlu Llundain ac yn ei gyrfa gynharach bu’n gweithio ym maes cyfathrebu i’r BBC ac EMI Classics.
Mae Leo hefyd yn wleidydd lleol ar ôl cael ei hethol i Gyngor Caerdydd ym mis Mai 2022. Mae hi hefyd wedi bod yn wleidydd lleol ym Mwrdeistref Ealing yn Llundain (1998 - 2006) lle bu’n arwain ar addysg a gwasanaethau plant, gan ddod yn Ddirprwy Arweinydd ac Arweinydd Cyngor yn ddiweddarach. Yn ystod y cyfnod hwnnw ac wedi hynny bu’n gwneud gwaith helaeth i’r Asiantaeth Gwella a Datblygu, sydd bellach yn rhan o’r Gymdeithas Llywodraeth Leol, yn mentora a hyfforddi cynghorwyr eraill ledled Lloegr.
Mae wedi dal sawl swydd anweithredol ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd English Touring Opera ac yn Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Mae hi'n byw yng Nghaerdydd, yn gerddor brwd ac yn dysgu'r acordion ar hyn o bryd.