News Story

“Mae sgôr a chaneuon Nicola T. Chang... yn rhagorol – cyfuniad egnïol o grime, rap, pop a cherddoriaeth gefndir theatrig” The Stage

Nicola T. Chang sy’n gyfrifol am drac sain Feral Monster. Hi gyfansoddodd y caneuon gyda’r cyfarwyddwr Izzy Rabey a’r perfformwyr, gan gynnwys Nathaniel Leacock, sy’n aelod o’r cast, a phobl eraill ledled Cymru.

Dyma gyfle i glywed sut portreadodd Nicola bersonoliaethau niferus y gwahanol rannau yn ymennydd Jax, a hynny drwy arbrofi â’r llais.

Mae Nicola T. Chang yn gyfansoddwr a dylunydd sain llwyddiannus sydd wedi gweithio’n diweddar ar y sioeau nodedig For Black Boys Who Have Considered Suicide When the Hue Gets Too Heavy (West End/Royal Court Theatre/New Diorama) a Totoro Show (Royal Shakespeare Company/Barbican Centre).