About Circle of Fifths | Taith

4 Stars

[A] beautiful and moving portrait of a place and its people.

Guardian

Profiad theatr i ymgolli ynddo yw Circle of Fifths, a hwnnw’n dathlu bywyd mewn marwolaeth.

Mae’r sioe yn edrych ar y pethau sy’n ein huno ni mewn galar a cholled, gan ddefnyddio ffilm, cerddoriaeth a straeon go iawn o Butetown, cymuned amlddiwylliannol hynaf Cymru, a’r tu hwnt.

Mae Gavin Porter, gwneuthurwr ffilm a theatr o Butetown, wedi creu’r sioe hon gyda cherddorion ac artistiaid o’i gymuned. Gyda’i gilydd, maen nhw’n rhoi cyfle i ni gnoi cil a dathlu ar y cyd.


Mae Circle of Fifths wedi’i noddi gan John Ellerman Foundation, fel rhan o raglen ‘Dramaturg’ NTW.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn

Gwybodaeth ddefnyddiol

Taith

Sioe yw hon a berfformiwyd gyntaf yng Nghaerdydd yn 2022. Mae Circle of Fifths bellach yn teithio i leoliadau ledled Cymru ac i Lundain.

19 - 21 Hydref – Glan yr Afon, Casnewydd
26 Hydref – Ebbw Vale Institute
28 Hydref – Black Park Chapel, Y Waun
3 Tachwedd – Theatr Byd Bach, Aberteifi
8 Tachwedd – Drill Hall, Cas-gwent
10 Tachwedd – Neuadd Trehopcyn, Pontypridd
11 - 12 Tachwedd – Butetown Community Centre, Caerdydd
17 - 20 Ionawr – Brixton House, Llundain

Diolch

Rydym hefyd am roi diolch i Rogue Welsh Cakes a Mam-Gu Welshcakes am y Pice ar y Maen ar draws taith Circle of Fifths, a Simla Spice, Casnewydd; Valley’s Spice, Glyn Ebwy; Mumbai Maska, Y Waun; Ali’s Tandoori, Aberteifi; Sitar Balti, Cas-gwent; Rice Box Indian Café, Pontypridd; Vegetarian Food Studio, Butetown a En Root, Clapham am y samosas.

Y tîm creadigol

Cyfarwyddwr
Gavin Porter
Ddramaydd
Dawn Walton OBE
Dylunydd Set a Gwisgoedd
Ruth Stringer
Dylunydd Golau
Jane Lalljee
Dylunydd Cynorthwyol
Sandra Gustafsson
Dylunydd Set a Gwisgoedd Gwreiddiol
Jacob Hughes
Dylunio a Thechnegydd Fideo
Nic Finch
Technegydd Goleuo ac Ailoleuo
James O’Neill
Technegydd Sain a Fideo
Ian Barnard