Prosiect Storïwyr Ifanc

Mae adrodd straeon wrth galon yr hyn a wnawn yn NTW. Gwnaethon ni wahodd pobl ifanc 16-25 oed oedd am ddatblygu eu sgiliau adrodd stori i greu portread sain o rywun yn eu cymuned.

Arhoswch, beth yw portread sain?

Wel, dyma'r enw rydyn ni'n ei roi ar bortread ffotograffig ynghyd â chyfweliad sain gyda'r person hwnnw.

Felly, sut mae'r prosiect hwn yn gweithio?

Gyda themâu Circle of Fifthsyn ysbrydoliaeth, fe wnaethon ni wahodd adroddwyr straeon ifanc o leoliadau’r daith i gyfweld ag aelod o’u cymuned, i sgwrsio am rym cerddoriaeth a’r cof.

Cafodd y portreadau sain hyn eu creu yn ystod gweithdy creadigol diwrnod o hyd yng nghwmni Jay Bedwani, y gwneuthurwr ffilmiau dogfen sydd wedi cael enwebiad BAFTA Cymru, ac Ellen Thomas, sy’n gyflwynydd, yn ffotograffydd ac yn un o gynorthwywyr TEAM.

Roedd y sgyrsiau’n amrywio o hel atgofion am y gerddoriaeth y byddai Heather yn dawnsio iddi yn ei hystafell fyw gyda’i thad, i gatharsis baled am dor-perthynas a ysbrydolodd waith ysgrifennu Richard, i’r geiriau caneuon grymus a roddodd gysur i Kirsty yn ei galar.

Darllena neu gwranda ar y straeon hyn isod, ynghyd â chwrdd â’r adroddwyr straeon ifanc a greodd y portreadau.

Mae modd gwrando ar holl drac sain prosiect yr Adroddwyr Straeon Ifanc hefyd.