Kirsty Wild

“I had this Badly Drawn Boy CD [...] The music itself was really quite soothing. It had been given to me by my French lecturer - [it felt like] that sort of endless token that somebody cares.”

Cafodd Kirsty Wild ei chyfweld gan y storïwr ifanc Arabella Fellows yn Stiwt Theatr, Wrecsam.

Gwrandewch ar stori Heather isod neu darllenwch y trawsgrifiad:

Unigolyn â gwallt coch hir. Mae ganddyn nhw dyllu trwyn a gwefusau ac maen nhw'n edrych ar y camera.
Credyd: Arabella Fellows & Ellen Thomas 2023

Cwrdd Arabella

Os nad oeddwn i'n barod dwi'n meddwl bod hyn yn fy ngwneud yn artist yn swyddogol!

Arabella Fellows ydw i ac rydw i'n fyfyriwr Safon Uwch y dyniaethau, ac yn 17 oed. I mi mae cerddoriaeth yn uno. Boed hynny’n gyfarfod o gerddorion o bob rhan o’r byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn fy nhref enedigol, ffurfio cyfeillgarwch yn seiliedig ar ein hoffter cyffredin o artist, neu’n sgrechian a dawnsio gyda dieithriaid yng Ngŵyl Leeds. Nid yn unig hynny ond mae cerddoriaeth yn nodi cerrig milltir ac eiliadau arbennig yn fy mywyd; o sgrechian Charmer yn sedd fy nghar, i'r effaith gafodd darganfod Girl in Red ar fy rhywioldeb, i glywed Arctic Monkeys yn canu fy enw fis Mehefin diwethaf. Mae gweithio gyda National Theatre Wales i greu fy mhortread digidol fy hun ar gyfer Circle of Fifths ond wedi dyfnhau fy ngwerthfawrogiad o gerddoriaeth a’r holl atgofion rydw i ac eraill yn cysylltu â hi.

Mae pŵer cerddoriaeth i'w weld ym mhobman mewn gwirionedd.