Feral Monster: Cynnig i ysgolion

Fel rhan o'n gwaith gyda phobl ifanc, rydym yn creu adnoddau addysgol. Dyma beth rydyn ni'n ei gynnig i ysgolion ochr yn ochr â Feral Monster, sioe gerdd newydd sy'n dathlu pobl ifanc yn eu harddegau.

Ynglŷn â'r sioe

Feral Monster yw stori Jax, merch ddigon cyffredin yn ei harddegau, wrth iddi hi/iddyn nhw/beth bynnag ddelio â chariad, rhywioldeb, hunaniaeth, teulu a phrysurdeb di-baid ei hymennydd swnllyd, parod ei farn.

Wedi’i gwahardd o’r ysgol, dydy hi ddim yn gallu cael gwaith yn y siop tships, hyd yn oed. Mae Jax yn 'strab stryd hyfryd yn ei harddegau' sy'n byw gyda'i Nain mewn 'pentref bychan, diflas'. Pan mae Jax yn gweld Ffion yn dod o’r siop tships, yn herfeiddiol yn eu gwallt a’u dillad swnllyd, mae’r gwreichion yn tasgu a chwant cwiar yr arddegau yn dod â’r pâr annhebygol hwn ynghyd yn ei holl ogoniant blêr, lletchwith a gwefreiddiol.

Mae Feral Monster yn ddathliad o bawb yn eu harddegau, ond mae’n gwneud hynny drwy hoelio’r sylw ar Jax, sy’n gyffredin o ddi-nod. Ochr yn ochr â hunaniaeth, rhywioldeb a theulu, mae Feral Monster yn trin a thrafod cyfeillgarwch, iechyd meddwl, byw yng Nghymru wledig, y bydoedd cwiar dosbarth canol a dosbarth gweithiol, effaith rhieni sy’n troi’u cefnau ar eu plant, ac ail gyfle.

Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, bydd trac sain y sioe gerdd yn dod â geiriau a chymeriadau Bethan yn fyw. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth ar y cyd gan Nicola T. Chang gyda'r cyfarwyddwr Izzy Rabey ac actorion ledled Cymru.

Ynglŷn â'r awdur Bethan Marlow

Mae Bethan yn wneuthurwr theatr a sgriptiwr Cymreig sy'n canolbwyntio ar adrodd straeon queer a benywaidd. Mae ei drama Nyrsys ar faes llafur Drama Safon Uwch CBAC ac mae ei chredydau theatr yn y gorffennol yn cynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd, Royal Shakespeare Company a Theatr y Sherman.

Mae Bethan wedi datblygu Feral Monster mewn cydweithrediad agos â phobl ifanc yn eu harddegau ledled Cymru – o fyfyrwyr mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion yn Sir Benfro i glwb ieuenctid LHDTQIA+ GISDA, elusen cefnogi pobl ifanc sy’n gweithio yng Ngwynedd.

Tocynnau a grant hyd at £1,000 i dalu costau'r daith

  • Mae tocynnau i rai dan 25 yn dechrau o £5.50 am ragddangosiadau.
  • Gallwch wneud cais i Gronfa Ewch i Weld Cyngor Celfyddydau Cymru . Os byddwch yn cyflwyno 5 wythnos cyn y sioe, yna gallwch wneud cais am hyd at £1,000 o gyllid i dalu am docynnau a chostau teithio.

Adnoddau addysgiadol i gyd-fynd â'r sioe

  • Rydyn ni wedi creu cynllun gwaith 6 gwers o amgylch y thema ‘cynefin’ ac yn canolbwyntio ar arbenigeddau pwnc allweddol o fewn maes dysgu a phrofiad y “Celfyddydau Mynegiannol”, yn cynnwys fideos gan y bobl greadigol arweiniol:
    • Cyfarwyddwr Izzy Rabey
    • Awdur Bethan Marlow
    • Cyfansoddwr Nicola T. Chang
    • Cyfarwyddwr Symud Osian Meilir
  • Mae rhai gwersi yn ddwyieithog.

Gwybodaeth am y cynnwys

Argymhelliad oedran 14+. Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref yn ogystal â:

Cyfeiriadau at: archwilio hunaniaeth rhywedd a rhywioldeb, pornograffi, rhyw, marwolaeth, hunan niwed, trawma plentyndod, salwch meddwl, tlodi a cyffuriau.

Portreadau o: alcoholiaeth, trais, troseddau cyllyll, gweithgarwch rhywiol.

Cynrychiolaeth theatrig o: hunanladdiad.

Gyda diolch i Ayesha Rees Khan, cwnselydd a ddarllenodd drwy'r sgript a rhoi cyngor ar y wybodaeth yn y cynnwys.

Amseroedd a dyddiadau’r perfformiadau

Nos Iau 15 Chwefror – nos Sadwrn 24 Chwefror
Theatr y Sherman, Caerdydd

Nos Iau 29 Chwefror – nos Wener 1 Mawrth
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Nos Fercher 6 Mawrth – nos Iau 7 Mawrth
Pontio, Bangor

Nos Fercher 13 Mawrth
Ffwrnes, Llanelli (Theatrau Sir Gȃr)

Nos Iau 21 Mawrth – nos Wener 22 Mawrth
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

Cysylltu â ni

Gallwch archebu tocynnau grŵp trwy wefan pob lleoliad.

Am wybodaeth am yr adnoddau, cysylltwch â Naomi Chiffi, Cyfarwyddwr Cydweithio: naomichiffi@nationaltheatrewales.org.

Noddir Feral Monster gan y Cymdeithas Adeiladu Principality a’i cefnogi gan The Open Fund PRS Foundation, John Ellerman Foundation, fel rhan o raglen Dramayddion NTW, Jack Arts a gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.