News Story

“Roedd yn anhygoel gweld beth mae dod at ein gilydd fel grŵp ac ysgrifennu gyda’n gilydd yn gallu ei wneud.”

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae ein 12 artist Feral Festwedi bod yn brysur. O weithdai gyda’r awdur Bethan Marlow, y cyfarwyddwr Izzy Rabey a’r cerddor Josh Whyte i recordio yn Stiwdio Cobra yng Nghasnewydd i berfformio gigs cyn ac ar ôl y sioe ar hyd taith Feral Monster.

Cymerwch gip ar sut maen nhw wedi bod yn datblygu eu crefft a dysgu am greu cerddoriaeth ar gyfer theatr yn y ffilm hon gan Kyle Morris.

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn a ddaw nesaf. Os ydych chi'n chwilio am wybodaeth am gigs a rhyddhau cerddoriaeth, dilynwch yr artistiaid ar Instagram: Hedydd Ioan (Skylrk.), Fruit, Jared Planas (Stuttershock), Kat Rees, Keziah O’Hare (Kawr), Neo Ukando (May Swoon), Izak Zjalic (Sachasom), Richard Dannenberg (Karypsia), Rightkeysonly a Wafa Arman.