News Story

Agorodd Della Hill, ein arbenigwr data mewnol (AKA ein Rheolwr Gweithrediadau ac Effaith Gymdeithasol), ei thaenlenni anhygoel a rhannu rhywfaint o adborth gan gynulleidfaoedd.

Dros 16 diwrnod ym mis Gorffennaf ac Awst camodd plant ledled Cymru i fyd lle roedden nhw’n teyrnasu’n llwyr, heb unrhyw derfyn ar eu creadigrwydd. GwnaethTreantur, a grëwyd gan yr artistiaid gweledigaethol Nigel Barrett a Louise Mari, drawsnewid yr awyr agored yn llwyfan i blant archwilio ac arbrofi gyda rhyfeddodau theatr a chreadigrwydd trwy osodwaith, a ddyluniwyd gan Amy Pitt. Y tro unigryw yn y gynffon? Nid oedd oedolion yn cael mynd i mewn. Yn hytrach, roedd 'Arbenigwyr Treantur' medrus ar y safle i roi lle diogel i blant i'w dychymyg redeg yn wyllt.

“Arbennig iawn! Enillais i gystadleuaeth! Wnes i greu cymaint o stwff! Y diwrnod gorau ERIOED!" - Plentyn

Mae plentyn yn cydio yn wyneb plentyn arall ac yn chwerthin. I'r chwith mae plentyn arall yn gwisgo wig las llachar a thop glas llachar.

Sut wnaeth Treantur ddigwydd

Wedi’i bweru gan bartneriaethau, cydweithio cymunedol, rhyddid a mynegiant, ac, yn anad dim, toreth o hwyl, ymwelodd Treantur â'r Drenewydd, Pen Llŷn yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Glyn Ebwy. Roedd y prosiect theatr arbrofol hwn wedi’i dreialu i ddechrau yn y Drenewydd yn 2022. Yn deillio o'r sylweddoliad bod pandemig Covid-19 a'r argyfwng hinsawdd wedi effeithio'n ddifrifol ar genhedlaeth o blant, ei nod oedd darparu profiad sy'n adfywio ymdeimlad o ryddid a llawenydd. Mae Treantur yn grymuso plant Cymru i wneud synnwyr o’u hamgylchedd trwy wneud ac adeiladu trwy ddychymyg, chwarae anhrefnus a dirwystr, gan alinio ac ategu sgiliau annatod y pedwar diben o fewn y Cwricwlwm i Gymru.

“Y cyfan y gallaf ei ddweud gan riant a gafodd y fraint trwy fy ymwneud â Treantur yw pa mor wirioneddol ddiolchgar ydw i eich bod wedi dod â Treantur yn ôl… Mae’r ardal y mae Treantur yn ei chreu mor bwysig, ac mae gweld a bod yn rhan o hynny yn fraint wirioneddol.” - Oedolyn yn Y Drenewydd


“Gwych! Fedra i ddim diolch digon! Y mab yn 6 ac yn gallu bod yn swil ac yn gyndyn i gymryd rhan mewn pethau! Mae o wrth ei fodd yma yn rhyddid i greu ac i chwarae. Wedi codi bore 'ma ac isio dod yn syth i Treantur! Uchafbwynt yr Eisteddfod yn sicr iddo… Hyfryd gallu gwrando o’r tu allan, profiad arbennig.” - Oedolyn


Y niferoedd y tu ôl i effaith Treantur

Dros 16 diwrnod...

  • Daeth 2,630+ o bobl i ymweld, gyda llawer yn aros am y pum awr gyfan, ac yn dychwelyd ddydd ar ôl dydd
  • Darth 36% o blant yn ôl am fwy nag un diwrnod; roedd rhai yno o'r dechrau tan yr amser cau bob dydd
  • Cafodd 86 o wneuthurwyr theatr llawrydd o bob rhan o Gymru eu cyflogi, eu hyfforddi a'u cefnogi i wneud i Treantur ddigwydd
  • Cafwyd 8 sesiwn hygyrchedd fel bod pawb yn cael y cyfle i archwilio eu dychymyg, o BSL i sesiynau hamddenol
  • Roedd 23 o 'Arbeniwyr Treantur' – wedi'u cyflogi ym mhob ardal leol – ar y safle, yn helpu'r plant i ddatgloi eu potensial creadigol
  • Gwnaeth 1.23 miliwn ymgysylltu trwy deledu a radio, gan gynnwys hud Treantur yn cael ei rannu ar BBC Breakfast TV ar BBC Un
  • Gwnaed 800 o becynnau cinio i danio meddyliau creadigol ifanc
  • Roedd 150,000+ o argraffiadau ar Twitter (neu X!) yn ystod ein trydar byw, gan alluogi pawb i fwynhau'r hwyl yn Treantur wrth iddo ddigwydd
  • Llenwyd 100+ o gêsys yn llawn propiau, gwisgoedd a deunyddiau crefft cyffrous i’r plant eu troi’ n greadigaethau o bob math!

Mae Treantur yn anhygoel – mae'n berfformiad ar sawl lefel. Bydd fy mab yn sicr yn mynd â’r profiad hwn gydag ef wrth iddo dyfu'n oedolyn.

Oedolyn

Lle hyn yn rili da - dwi eisiau fe ym mhob Eisteddfod.

Plentyn

Mae plentyn yn sefyll, wedi'i lapio mewn rhubanau o wahanol liwiau. Maen nhw'n gwenu.
Credyd: Paul Blakemore 2023
Mae plentyn yn neidio trwy raff sgipio. Y tu ôl iddynt mae plant eraill yn chwarae mewn cae llawn defnyddiau.
Credyd: Paul Blakemore 2023

Mae wedi bod yn hwb anhygoel i’r dref yr wythnos hon… Roedden ni wrth ein bodd bod ym ‘maestrefi’ Treantur ac roedd gwrando ar y sain mor deimladwy, doniol, torcalonnus.

Steffan Jones Hughes, Cyfarwyddwr, Oriel Davies

Cefais fod Treantur yn amgylchedd gwaith cadarnhaol iawn ac yn brofiad gwych yn gyffredinol. Cefais gyfle i ymarfer llawer o sgiliau a fydd yn ddefnyddiol mewn amgylcheddau gwaith yn y dyfodol

Aelod o Griw Treantur

Diolch!

Mae popeth a wnawn yn NTW mewn cydweithrediad. Roedd Treantur yn ymdrech tîm a ddaeth ag artistiaid, gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr ynghyd, i gyd yn gweithio'n angerddol i ddod â'r rhyfeddod llawn dychymyg hwn yn fyw.

Rydym hefyd eisiau dweud diolch yn fawr iawn i’n partneriaid a’n noddwyr:

Felly, beth nesaf?

Wel, bydd crewyr Treantur Nigel a Louise nawr yn gwrando'n ôl ar yr holl recordiadau sain ac yn mynd ati i lunio sgript ar gyfer y sioe theatr epig ac arloesol o radical rydyn ni'n ei gwneud y flwyddyn nesaf.

Os nad wyt ti'n derbyn ein e-byst eisoes, cofrestra ar gyfer ein rhestr bostio i glywed popeth am y camau nesaf.

Beth ddigwyddodd yn Treantur

Cyn gynted ag y cafodd y plant eu 'Pasbort' a chamu drwy'r 'Giatiau Ymadael', a gynlluniwyd i ddynwared profiad maes awyr, daethant yn ddinasyddion Treantur. Heb unrhyw reolau i'w rhwystro a chyfoeth o eitemau i chwarae â nhw, mater iddyn nhw'n llwyr oedd penderfynu sut y byddent yn treulio eu hamser gyda ni. Bu Nigel a Louise yn cyfweld â'r plant ac yn adrodd hud a lledrith Treantur trwy seinyddion i rieni a gwarcheidwaid ei fwynhau o'r tu allan. Boed yn hacwyr cyfrifiaduron yn achub y byd digidol yn y Drenewydd, teithwyr amser yn dychwelyd cyfrinachau o’r dyfodol yn yr Eisteddfod, neu folcanolegwyr yn atal ffrwydradau yng Nglyn Ebwy, clywson ni am ystod o wirioneddau dychmygus trawiadol a ddaethpwyd yn fyw gan feddyliau cenhedlaeth iau Cymru.

Gwyliwch ein cerdyn post o Treantur:

“Y cyfan y gallaf ei ddweud gan riant a gafodd y fraint trwy fy ymwneud â Treantur yw pa mor wirioneddol ddiolchgar ydw i eich bod wedi dod â Treantur yn ôl… Mae’r ardal y mae Treantur yn ei chreu mor bwysig, ac mae gweld a bod yn rhan o hynny yn fraint wirioneddol.” - Oedolyn yn Y Drenewydd