News Story

Fe wnaethon ni gyfarfod yn ddiweddar wyneb yn wyneb ac yn rhithiol i rannu'r hyn sydd ar y gweill ar gyfer 2023. Fe wnaethon ni chwerthin, dawnsio, rhannu, a chael sgwrs werth chweil.

Roedd yn gyffrous iawn cael rhannu'r hyn sydd ar y gweill dros y flwyddyn nesaf.

Roedd areithiau hefyd! Mae modd darllen un Lorne isod:

Yn ei llyfr hynod Donut Economics, mae Kate Raworth yn cynnig delweddiad newydd syml a phwerus o sut olwg all fod ar fodel cylchol. Yn syml iawn, yr hyn y mae hi'n ei awgrymu yw bod y ffordd yr ydyn ni'n delweddu ein heconomi, neu ein cymdeithas yn hanfodol i'r ffordd yr ydyn ni'n gweithredu oddi mewn iddi. Mae'n rhaid inni roi’r gorau i feddwl amdano fel ras o a i b a dechrau meddwl am bob agwedd ar yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud fel ymdrech i fodoli mewn man iwtopaidd A hynod bosibl. Man lle nad oes unrhyw unigolyn neu gwmni neu gymuned yn defnyddio swm anghynaliadwy ac nad yw unrhyw unigolyn neu gymuned yn cael ei amddifadu rhag digon.

Mae’r her o ran sut rydyn ni'n gwneud hynny ym mhob agwedd ar ein bywydau weithiau’n hynod gymhleth. Mae'n gofyn am feddwl newydd, breuddwydio newydd, delweddau newydd, lluniau newydd, a straeon newydd yn cael eu hadrodd mewn ffyrdd newydd. Yn fyr, mae’n her i’r artist ym mhob un ohonon ni. Mae hwn yn amser i artistiaid, i freuddwydwyr a gwneuthurwyr, ond nid yr artist fel syrcas sy’n teithio drwy’r dref o bryd i’w gilydd nac unigolyn â sgiliau hynod gywrain, ond yr artist fel rhan sylfaenol o bob bod dynol o bob profiad o bob cymuned o bob cyd-destun.

Gan weithio gyda’r tîm rhyfeddol yn National Theatre Wales, gweithwyr llawrydd anhygoel Cymru, gyda’n cyllidwyr, ein sefydliadau partner ac yn hollbwysig: cymunedau ledled Cymru rydyn ni wedi adeiladu cynllun newydd a rhaglen waith newydd i ddechrau mynd i’r afael â’r her hon orau y gallwn ni mewn partneriaeth ddofn, gymhleth a pharhaus gyda'r holl bobl hynny a llawer mwy.

Wrth wraidd y cynllun mae’r syniad bod ffocws gwaith NTW yn symud o ethos creu lleoedd ein degawd cyntaf i greu newid.

Mae unigolyn yn sefyll ar lwyfan o flaen meicroffon. Mae eu breichiau yn agored ac i'r chwith mae rhywun yn dehongli eu lleferydd trwy BSL.
Credyd: Tegan Foley 2023

Felly beth mae hynny'n ei olygu?

Mewn sawl ffordd, roedd ein Lansiad Tymor yn un o'r camau cyntaf i ddod o hyd i'r ateb. I ddweud yn gyhoeddus, gyda chryn gyffro, 'dydyn ni ddim yn gwybod' ond o fewn ein cynllun ac o fewn ein rhaglen waith, dyma sut rydyn ni’n bwriadu darganfod:

Trwy ddysgu, gwrando a breuddwydio gyda’r bobl y cymunedau a’r gwneuthurwyr theatr ym mhob rhan o Gymru. Trwy wneud gwaith ag effaith wirioneddol. Trwy adrodd y straeon sy'n ein helpu i ddeall ein hunain yn well. Trwy greu gofodau o empathi, canfyddiad, sioc, dicter a charedigrwydd. Drwy wneud hyn, rydyn ni'n chwarae ein rhan yn yr ymdrech fawr ar y cyd i dyfu cymdeithas gynaliadwy decach well.

Dyma gipolwg ar bedwar prosiect y byddwn ni'n eu gwneud dros y flwyddyn nesaf…

  1. The Cost of Living: cynhyrchiad tair rhan uchelgeisiol yn cael ei wneud mewn partneriaeth â’r tîm a Grand Ambition yn y Grand Abertawe, gyda’r hynod ysbrydoledig EYST a Phafiliwn Grangetown a chydag amrywiaeth arbennig o dalent Cymreig, mae’n sgwrs, mae’n ddrama, mae’n gig. Mae'n ddiedifar am y foment yr ydyn ni'n byw ynddi ac am ein hawliau a'r ymosodiadau niferus arnyn nhw a sut y gallen ni wrthsefyll gyda'n gilydd.

  2. Kidstown: Ymarfer epig mewn gwrando ar ddychymyg plant Cymru a’i chwyddo, gofod gosodwaith a fydd yn ymweld â thair cymuned wahanol iawn ar draws Cymru a chymryd rhan mewn chwarae difrifol gyda phobl ifanc yn y ffordd i ddarlledu’r pethau maen nhw’n meddwl ac yn breuddwydio amdanyn nhw ar draws y byd yn 2024.

  3. Circle of Fifths: Rhaglen ddogfen gerddorol farddonol yn archwilio galar, iachâd a'r berthynas hudol rhwng bodau dynol a cherddoriaeth. Bydd y gwaith hwn a gafodd ei greu gan Gavin Porter a thîm o artistiaid o Butetown yn teithio ledled Cymru a’r DU gan greu gofod i amrywiaeth enfawr o gynulleidfaoedd gysylltu â’r cynhyrchiad a’i gilydd yn eu holl alarau a rennir a rhai preifat.

  4. Feral Monsters: Drama gerddorol ddidrefn orfoleddus byrotechnegol newydd gan Bethan Marlow am holl lanast, dryswch, perygl a phosibilrwydd bod yn ferch ifanc queer yn ei harddegau mewn man sy’n cael ei anwybyddu mewn cenhedlaeth sy’n cael ei hanwybyddu. Dyma beilot o fodel newydd o deithio yr ydyn ni'n ei ddatblygu gyda lleoliadau ledled Cymru a'r DU i ledaenu gwaith artistiaid Cymreig ymhell ac agos i rannu llafur cariad sy’n adeiladu cynulleidfaoedd newydd a pherthnasoedd newydd mewn partneriaeth ddofn a pharhaus gyda gwneuthurwyr theatr a lleoliadau.

Fel bob amser ar gyfer cwmni theatr cynhyrchu, dim ond rhan fach o'r cyfan yw'r cynyrchiadau. Dim ond y siwgr ar y toesen. Am nawr, dyma flas o bopeth arall sydd yn y ffwrn...

..Felly ni fyddwn ni'n dweud wrthych chi heno am Am Ddrama, y gwasanaeth darllen ac adborth dramâu agored rydyn ni wedi ei dreialu gyda Theatr Clwyd a Theatr Gen.

..cynlluniau enfawr ar gyfer gŵyl o newid wedi'i harwain gan ein rhaglen TEAM sy'n esblygu.

..ffyrdd yr ydyn ni'n ymwreiddio ein hunain yn ofalus ac yn araf mewn cydweithrediadau wedi'u harwain gan y gymuned a gwrando a dysgu am beth sydd ei eisiau a beth sydd ei angen.

..camau nesaf ar gyfer Springboardyn darparu pwyntiau mynediad pwerus a llwyfannau ar gyfer artistiaid newydd o gymunedau ymylol.

..gydweithio â National Theatre Scotland a National Theatre UK i fwrw ymlaen â chamau hanfodol nesaf Theatre Green Book a modelau cynhyrchu di-garbon.

..gyd-gomisiynau gydag Unlimited i gefnogi newid sylweddol mewn graddfa ac uchelgais ar gyfer artistiaid anabl Cymreig.

..ddatblygu partneriaethau rhyngwladol gyda'r Gorki yn Berlin, gyda'r Abbey yn Nulyn, a gyda'r Harbourfront yn Toronto.

..waith ysgytwol newydd gan Connor Allen, Menna Elfyn, Kath Chandler, Ed Thomas, Steven Kavuma, Hannah McPake, Seiriol Davis, Rahim El Habachi a llu o rai eraill.

Felly ffrindiau, hen a newydd: croeso i’r amser a’r her i ni. Artistiaid Cymru, pobl Cymru. Ymunwch â ni wrth i ni geisio darganfod sut i fyw mewn toesen. Ar doesen? Y naill ffordd neu'r llall, bydd yna does.