About Circle of Fifths

5 Stars

you feel you are part of something real and stark and spiritual

Buzz Magazine

Mae ffrindiau a theuluoedd yn ymgynnull ar y stryd y tu allan i gartref. Weithiau gyda sgidiau a rhawiau. Gyda’i gilydd maent yn rhannu mân siarad ac yn cydymdeimlo cyn ffarwelio â Butetown.

Yn ddiweddarach, mae straeon, atgofion a cherddoriaeth yn cymysgu â’u galar. Mae cân yn torri trwodd. Mae’r sain yn cael ei throi i fyny ac maent yn dawnsio.

Mae colled yn creu teimlad o anghytgord. Toriad yn rhythm bywyd. Ar adegau fel hyn, gall cerddoriaeth fod y peth sy’n gwneud i ni deimlo.

Gwnaeth Gavin Porter a chydweithfa o artistiaid ddod â ni at ein gilydd i ddathlu bywyd mewn marwolaeth. Perfformiad dogfennol byw, wedi’i adrodd trwy straeon bywyd go iawn, wedi’i wreiddio mewn traddodiad, cerddoriaeth a chof.

Life in all its diversity; death in all its universality

Institute of Welsh Affairs

my unexpressed feelings were communicated in a way that was beyond me

The Stage


Gwybodaeth ddefnyddiol

Hygyrchedd

Gwyliwch y cyflwyniad BSL neu gwrandewch ar y daflen sain

Roedd Circle of Fifths yn cynnwys perfformiad sain ddisgrifio gan Alastair Sill, perfformiad BSL gan Sami Dunn a chapsiynau byw gan Sheryll Holley.

Leoliad

Dechreuodd y sioe yn yr awyr agored, ger y Senedd, gyda gorymdaith fer i lawr Stryd Pierhead cyn symud i mewn i’r Tŷ Dawns.

Y tîm creadigol

Cyfarwyddwr
Gavin Porter
Dylunydd Set a Gwisgoedd
Jacob Hughes
Dylunydd Golau
Jane Lalljee
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Bianca Ali
Artist Cyswllt
Kyle Legall