Gwybodaeth am archebu

Gwybodaeth ddefnyddiol wrth archebu tocynnau ar gyfer ein digwyddiadau.

Tocynnau

Archebu trwy National Theatre Wales

Pan fyddi di'n archebu tocyn ar gyfer digwyddiad drwy ein gwefan, byddi di'n cael cynnig 'E-docyn' a fydd yn cael ei e-bostio atat ar ôl i'r trafodiad gael ei gadarnhau.

Er mwyn ein helpu i arbed papur, nid oes angen i ti argraffu hwn ymlaen llaw. Galli di ddod â’r tocyn i’r digwyddiad ar dy ffôn symudol neu lechen a’i ddangos i aelod o staff y swyddfa docynnau pan fyddi di'n cyrraedd. Os nad oes gen ti ffôn symudol neu lechen, noda rif yr archeb ac enw prynwr y tocyn.

Archebu trwy leoliad partner

Ar gyfer rhai o'n digwyddiadau, mae'r lleoliad yn gofalu am dy docynnau. Felly bydd polisi tocynnau'r lleoliad yn berthnasol. Gwiria gyda nhw cyn archebu ac a oes angen i ti argraffu tocyn ymlaen llaw.

Polisi ad-daliadau

Archebu trwy National Theatre Wales

Byddwn ond yn ad-dalu tocyn os bydd y digwyddiad wedi gwerthu allan a bod rhywun ar y rhestr aros a fydd yn prynu’r tocyn hwnnw.

Os na alli di ddod i ddigwyddiad, gallwn roi credyd ar dy gyfrif fel y galli di brynu tocyn gennym ni ar gyfer digwyddiad yr hoffet ei fynychu yn y dyfodol.

Pan roddir ad-daliad llawn neu rannol, bydd bob amser yn cael ei dalu i'r cerdyn a ddefnyddiwyd yn wreiddiol ar gyfer y taliad. Ni allwn wneud ad-daliad i gerdyn talu arall.

Archebu trwy leoliad partner

Ar gyfer rhai o'n digwyddiadau, mae'r lleoliad yn gofalu am dy docynnau. Yn yr achosion hyn, bydd polisi ad-daliadau'r lleoliad yn berthnasol. Gwiria eu polisi cyn archebu.

Beth fydd yn digwydd os caiff digwyddiad ei ganslo neu ei ohirio?

Os caiff digwyddiad ei ganslo neu ei ohirio, bydd dy bwynt prynu yn cysylltu â thi ynghylch ad-daliad neu gyfnewid.

Cysylltu â ni

Oes gen ti gwestiwn am dy archeb? Cysyllta â’n swyddfa docynnau drwy ffôn neu e-bost:

+44 (0)29 2252 8171 / boxoffice@nationaltheatrewales.org

Mae'r swyddfa docynnau ar agor yn ystod digwyddiadau ac o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am - 5pm.