Ffilm Go Tell the Bees
Go Tell the Bees
Trwy gydol mis Medi buom yn dangos Go Tell the Bees mewn cestyll mawreddog a ffermydd hardd. Wedi’i datblygu o bedair blynedd o sgyrsiau, wedi’i hysbrydoli gan 25 mlynedd ers trychineb y Sea Empress ac wedi’i chreu gan dros 400 o gyfranwyr mewn 30 lleoliad, mae hon yn ffilm a grëwyd gyda pobl Sir Benfro, ganddyn nhw ac ar eu cyfer.
Roeddem yn llawn cyffro i rannu’r profiad hwn yn bersonol gyda chi, ac roedd cefndir o fachlud euraidd yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy arbennig. Rydyn ni’n gwybod na fydd llawer ohonoch chi wedi gallu teithio i Sir Benfro, felly rydyn ni wrth ein bodd yn gallu rhannu’r prosiect hwn i chi ei wylio yng nghysur eich cartref drwy gydol mis Hydref 2021. Rydym yn argymell bachu byrbrydau, cwtsho gyda’ch anwyliaid a gwylio’r ffilm ar sgrin lawn. Os ydych chi eisiau blas ar brofiad Sir Benfro, efallai yr hoffech chi hefyd agor ffenestr i adael i’r oerfel ddod i mewn!
Dechreuodd pob un o’n digwyddiadau sgrinio gyda pherfformiad byw, cyfle i archwilio’r arddangosfa gysylltiedig a chyflwyniad gan y storïwr a’r gwneuthurwr chwedlau, Phil Okwedy, a gyflwynodd pob un o’r tri dangosiad. Gallwch ddarllen araith Phil yn llawn i gael gwybod rhagor am daith TEAM yn Sir Benfro.
Roedd y ffilm hon ar gael ar alw trwy gydol mis Hydref 2021.
Rhagor o wybodaeth
Edrychwch yn ôl ar luniau o’n dangosiadau byw, cyfweliadau â’r crewyr a dysgwch am Sea Empress 25 ar ein tudalen prosiect Go Tell the Bees.
I ddarllen rhagor am daith Go Tell the Bees ewch i’n blogiau ar Daith gyffrous Go Tell the Bees, Creu’r sgript ac Ail-lunio prosiect cymunedol yn ystod cyfnod o ynysu.
Gallwch hefyd gymryd rhan gartref trwy ein Hystorfa Ddysgu.