NTW TEAM

Creu cysylltiadau sy’n tanio gwreichion creadigol ym mhob cwr o Gymru – dyna holl bwrpas NTW.

Mae TEAM yn gwbl ganolog i hyn.

Rydyn ni’n credu bod gan bawb yr hawl i fod yn rhan o’r celfyddydau a’r byd creadigol. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae TEAM yn dod i ’nabod pobl o bob oed, gallu a chefndir, a hynny drwy Gymru benbaladr.

Mae grym i’w gael wrth adrodd dy straeon dy hun, ym mha bynnag ffordd rwyt ti’n dymuno’u hadrodd. Mae cymunedau cryf, clos yn gwneud hyn drwy’r amser; mae’n rhywbeth sydd wedi dod yn gwbl amlwg inni wrth fod yn eu cwmni.

Mae TEAM i bawb, sut bynnag yr hoffai pobl gyfrannu. Drwy ffotograffiaeth y bydd rhai pobl yn gwneud hynny; eraill drwy ffilm. Efallai mai pwt o ysgrifennu neu ddarn o gelf fydd yn mynd â dy fryd. Fe allai hyn droi’n berfformiad. Fe allai fod yn hynod o breifat. Ti sydd i ddewis.

Ym mhopeth y byddwn ni’n ei wneud, ein nod yw gwrando, dysgu a helpu pobl i fynegi rhai o straeon gorau Cymru sydd heb eu dweud. Weithiau, bydd pobl yn dod o hyd i yrfaoedd creadigol drwy eu profiadau gyda TEAM. Droeon eraill, byddan nhw’n rhoi’r grym newydd hwn yn ôl ar waith yn eu bywydau a’u hardaloedd lleol eu hunain. Sut bynnag y bydd hyn yn digwydd, gyda’n gilydd rydyn ni’n creu cymunedau creadigol ledled Cymru a’r tu hwnt.

Tyrd i sgwrsio â ni

Cer draw i’n tudalen Facebook i weld y wybodaeth ddiweddaraf gan TEAM, gan gynnwys newyddion a chyfleoedd, digwyddiadau, rhannu sgiliau, gwahoddiadau, straeon a mwy.

Os oes gen ti syniad, prosiect creadigol neu ddigwyddiad yr hoffet ti ei rannu neu ei drafod, neu os wyt ti’n chwilio am rywfaint o gymorth gan gymuned gyfeillgar ym maes y celfyddydau, rho wybod inni. Fe alli di hefyd ein dilyn ar Instagram a chael y wybodaeth ddiweddaraf ar Twitter #ntwTEAM.

TEAM yn Sir Benfro a Wrecsam

Yn 2018, dechreuodd TEAM ar ei brosiect mwyaf hyd yma.

Gan ganolbwyntio ar ddwy ardal benodol yng Nghymru – Sir Benfro a Wrecsam – roedden ni am weld beth fyddai’n gallu newid drwy wreiddio TEAM yn ddwfn yng nghanol dwy gymuned leol.

Ein bwriad oedd creu cyfleoedd i rymuso pobl, eu helpu i arwain, sbarduno ymgyrchu creadigol, creu cysylltiadau ac ennyn diddordeb yn y tymor hir, gan arwain at gynhyrchiad maint llawn gan NTW ym mhob lleoliad, a hwnnw wedi’i gyd-greu â’r bobl.

Mae Sefydliad Paul Hamlyn yn cefnogi ein gwaith yn Sir Benfro a Wrecsam.