Cynaliadwyedd amgylcheddol

Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith carbon

Rydym yn byw mewn argyfwng hinsawdd. Mae'n rhaid i ni newid y ffordd rydyn ni'n gwneud pethau, ac fel theatr genedlaethol, mae'n rhaid i ni gymryd yr awenau.

Ein cynyrchiadau

Ochr yn ochr â llawer o gwmnïau theatr eraill ledled Cymru a thu hwnt, rydym yn defnyddio Theatre Green Book fel canllaw i wneud ein cynyrchiadau yn fwy cynaliadwy. O gyfrifo ôl troed carbon deunyddiau, i ailddefnyddio ac ailgylchu.

Wrth wneud hynny, rydym yn cyd-fynd ag uchelgais Llywodraeth Cymru i gyflawni sero carbon ar gyfer y sector cyhoeddus erbyn 2030.

Mae'n ymgymeriad enfawr. Nid ydym yn berffaith. Ond rydyn ni'n trio.

Gweithredu

Rydym yn gwneud cynnydd mewn meysydd eraill hefyd, gan gynnwys:

  • Hyfforddiant Llythrennedd Carbon
  • Gweithio hybrid i leihau ein cymudo dyddiol
  • Defnyddio cludiant cyhoeddus neu gludiant a rennir pan fydd yn rhaid i ni deithio o amgylch y wlad
  • Ysgafnhau llwyth ein gwefan drwy wneud pethau’n haws dod o hyd iddynt a chael gwared ar gynnwys swmpus sy’n defnyddio llawer o ynni
  • Defnyddio mwy o wasanaethau cwmwl fel ein bod yn llai dibynnol ar galedwedd ein gweinydd
  • Datgan ein cefnogaeth i Culture Declares Emergency

Rydyn ni'n addo rhannu mwy o'n taith tuag at ddod yn garbon niwtral, a phopeth rydyn ni'n ei ddysgu ar hyd y ffordd.

Os ydych chi'n meddwl y gallwch chi ein helpu i fod yn fwy cyfrifol yn amgylcheddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.