Ynglun Â

TEAM yw dull NTW o ymgysylltu.
Trwy TEAM, rydym wedi torri tir newydd trwy weithio’n gynhwysol gyda chymunedau a gwneuthurwyr theatr. Trwy gysylltu pobl a chreadigrwydd yn eu hardaloedd a’u tirweddau eu hunain, rydym yn ail-ddynodi’r hyn y gall theatr fod, wrth greu cyfleoedd a phrofiadau trawsnewidiol sy’n dyfnhau ei heffaith a’i gwerth.
Prosiectau TEAM
Yn 2018 dechreuodd TEAM ar ein prosiect mwyaf hyd yma – un a fydd, dros bedair blynedd, yn cynnwys cymunedau Sir Benfro a Wrecsam mewn rhaglen bwrpasol o rymuso, arweinyddiaeth, gweithgarwch creadigol ac ymgysylltu tymor hir dwys, gan arwain at gynhyrchiad NTW llawn yn y ddau leoliad.
- Yn Wrecsam, mae cymunedau wedi dewis archwilio thema digartrefedd/cartref.
- Yn Sir Benfro, cafodd cymunedau eu hysbrydoli gan newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd.
Cefnogir ein gwaith yn Wrecsam a Sir Benfro gan Sefydliad Paul Hamlyn.
Rhwydwaith TEAM
Ymhobman yr ydym yn mynd, rydym yn cydweithredu, yn cefnogi ac yn hyrwyddo rhwydwaith o weithwyr creadigol sy’n tyfu o hyd: o wneuthurwyr theatr ac artistiaid, i selogion ymroddedig a dylanwadwyr lleol – mae croeso i unrhyw un dros 16 oed fod yn rhan o’n rhwydwaith sy’n rhad ac am ddim.
Ewch draw i’n Tudalen Facebook am gyfleoedd, digwyddiadau, rhannu sgiliau, gwahoddiadau, ynghyd â newyddion gan TEAM NTW a mwy. Os oes gennych chi syniad, prosiect creadigol neu ddigwyddiad rydych chi am ei rannu neu ei drafod, neu os ydych chi’n chwilio am rywfaint o gefnogaeth gan gymuned gelfyddydau gyfeillgar, rhowch wybod i ni.
Gallwch hefyd ein dilyn ar Instagram a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith trwy Twitter #ntwTEAM.
Panel TEAM
Mae Panel TEAM yn grŵp o bobl ysbrydoledig sy’n gweithio gyda NTW i’n cefnogi, ein cwestiynu a’n cynghori ar faterion fel recriwtio, rhaglennu, marchnata a hyfforddiant. Mae’r Panel TEAM yn rhan ganolog o’n meddwl a’n dull o weithredu, yn gwneud penderfyniadau gyda ni ar ddyfodol NTW, a nhw yw ein cynrychiolwyr mewn digwyddiadau a pherfformiadau.
Mae aelodau ein Panel TEAM yn arweinwyr yn eu cymunedau sy’n creu, ysbrydoli, perfformio, addysgu, ysgrifennu, trefnu, rhedeg prosiectau a rhoi adborth – nhw yw ein llygaid a’n clustiau ledled Cymru. Rydym yn recriwtio’n flynyddol, ac rydym bob amser yn awyddus i glywed gan bobl yng Nghymru sydd ag ystod amrywiol o sgiliau, gwybodaeth, safbwyntiau, profiad a chefndiroedd i ymuno â ni. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni. Gallwch chi gwrdd â’n Panel cyfredol isod.
Addysg
Mae addysg yn ganolog i TEAM ac yn rhedeg drwy ein holl waith. Dyma ein ffordd o estyn allan i gymunedau ledled Cymru, y DU ac ar draws y Byd, ac ymgysylltu â nhw. Rydym yn datblygu prosiectau penodol ar gyfer pobl ifanc sy’n ymateb i gwricwlwm Cymru, ac yn darparu cyfleoedd i bobl o bob oed ddysgu’n greadigol trwy weithdai, rhwydweithio, digwyddiadau rhannu syniadau, sgyrsiau a thrafodaethau.
Sefydliad Paul Hamlyn
Sefydlwyd Sefydliad Paul Hamlyn gan Paul Hamlyn ym 1987. Ar achlysur ei farwolaeth yn 2001, gadawodd y rhan fwyaf o’i ystâd i’r Sefydliad, gan greu un o’r sefydliadau dyfarnu grantiau annibynnol mwyaf yn y DU. Ei genhadaeth yw helpu pobl i oresgyn anfantais a diffyg cyfle, fel y gallant wireddu eu potensial a mwynhau bywydau boddhaol a chreadigol. Mae gan PHF ddiddordeb arbennig mewn cefnogi pobl ifanc a chred gref ym mhwysigrwydd y celfyddydau.
Dyfarnwyd cyllid o £400,000 i raglen TEAM National Theatre Wales gan Sefydliad Paul Hamlyn (PHF), un o gyllidwyr annibynnol mwyaf y DU. Bydd y grant yn cefnogi’r cyfnod nesaf o bedair blynedd o waith TEAM NTW, yn Sir Benfro a Wrecsam.
TEAM yw rhwydwaith byd-eang, amrywiol o bobl NTW sy’n cydweithio â’r cwmni, yn creu gwaith yn eu cymunedau, yn rhoi adborth ar waith NTW ac yn llywio ei benderfyniadau.
Mae PHF wedi cymeradwyo grant ‘Mwy a Gwell’ o £400,000 o’i Gronfa Mynediad i’r Celfyddydau a Chyfranogiad Ynddynt, i’w ddyrannu i NTW TEAM dros bedair blynedd.
Gan ganolbwyntio ar ddwy ardal yng Nghymru – Wrecsam a Sir Benfro – bydd NTW TEAM yn defnyddio’r grant a’u harbenigedd i ymgysylltu â chymunedau mewn rhaglen bwrpasol o rymuso, arweinyddiaeth, gweithgarwch creadigol ac ymgysylltiad dwys hirdymor. Yn anad dim, y bwriad yw galluogi’r cymunedau hynny i benderfynu ar eu gweithredoedd eu hunain, fel y’u pennir gan eu hanghenion a’u huchelgeisiau eu hunain.
Bydd yn dod i ben gyda chynhyrchiad theatr NTW ym mhob ardal, yn 2021 a 2022, wedi’u creu mewn cydweithrediad â’r gymuned.
Wrth gyhoeddi’r grant, dywedodd Pennaeth Cydweithrediad National Theatre Wales, Devinda De Silva: “Rwyf wrth fy modd ac yn ddiolchgar iawn i Sefydliad Paul Hamlyn am eu ffydd barhaus yn ein gwaith, gan y bydd yn sicrhau bod Cymru’n parhau i arwain y ffordd ym maes ymgysylltu â’r celfyddydau. Teimlwn fod yna frys go iawn i ddatblygu dulliau a phartneriaethau newydd a’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, a bydd y grant hwn yn hwb mawr i’n hymdrechion.”
Darllenwch flog Devinda de Silva ar werth cyllid hirdymor ar gyfer y rhaglen TEAM.